Rheilffordd cledrau cul

(Ailgyfeiriad o Rheilffordd Gul)
Amrywiol Draciau
a'r pellter sydd rhyngddynt


Cledrau Llydan
  Cledrau Breitspurbahn (yr Almaen) 3,000 mm (118.1 in)
  Cledrau Brunel 2,140 mm (84.3 in)
  India 1,676 mm (66.0 in)
  Sbaen a Phortiwgal 1,668 mm (65.7 in)
  Iwerddon 1,600 mm (63.0 in)
  Rwsia 1,520 mm (59.8 in)

Cledrau Safonol
  Cledrau Safonol
(Stephenson)
1,435 mm (56.5 in)

Cledrau Canolig
  yr Alban 1,372 mm (54.0 in)
  Cledrau Cape 1,067 mm (42.0 in)
  Cledrau metr 1,000 mm (39.4 in)

Cledrau Cul
  Cledrau Tair Troedfedd 914 mm (36.0 in)
  Cledrau Bosnia 760 mm (29.9 in)

Y Cledrau Mwyaf Cul
  Cledrau Pymtheg Modfedd 381 mm (15.0 in)

Mae rheilffordd cledrau cul (weithiau rheilffordd gul) yn rheilffordd â chledrau sydd yn agosach at ei gilydd na'r rhai safonol a ddefnyddir gan y mwyafrif o reilffyrdd ym Mhrydain ac mewn mannau eraill yn y byd, sef 1,435 mm (4 tr 812 mod). Y mesuriadau hyn ydy'r bwlch sydd rhwng y cledrau. Mae'r rhan fwyaf o gledrau cul rhwng 2 dr (610 mm) a 3 tr 6 mod (1,067 mm).

Tren a las Nubes, Salta (Yr Ariannin)
Cymharu'r ddau fath o gledrau: cledrau safonol (glas) a chledrau cul (coch)

Trosolwg golygu

Pan osodir cledrau cul ar y llawr gyda thro ynddynt, mae'r radiws yn llai na'r tro y gellir ei gael ffurfio gyda chledrau safonol. Mae'r cledrau cul eu hunain hefyd yn pwyso llai, yn cynnwys llai o fetel ynddynt ac yn costio llai. Mae medru troi'n gwneud y system cledrau cul yn llawer mwy hwylus ar gyfer ardaloedd mynyddig neu anodd. Cânt eu defnyddio mewn chwaeli a mannau diwydiannol eraill am yr un rhesymau.

Ar y llaw arall, mae gan gledrau safonol y gallu i gludo mwy o lwyth, llwyth trymach ac yn gynt na chledrau cul.

Gwledydd Prydain golygu

Un o'r rheilffyrdd cyntaf yn y byd oedd Rheilffordd Penydarren, yn Ne Cymru: cledrau cul oedd y system a ddefnyddiwyd yno. Mae'r rheilffordd cludo teithwyr hiraf i'w gael yng Ngogledd Cymru, sef Rheilffordd Eryri a Ffestiniog a oedd yn un, ac a oedd yn mesur 58 km (36 milltir). Fe'i orffenwyd yn 2011 gan godi hyd y linell i 64 km (40 milltir). Pasiwyd deddf i ganiatau i Rheilffordd Talyllyn gludo teithwyr, dyma'r cyntaf i gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn 1951 ar ôl i'r perchennog, Syr Henry Haydn Jones, farw .[1] Yn groes i reilffyrdd eraill a redir gan wirfoddolwyr, ni fu erioed doriad rhwng gwasanaethau yr hen gwmni a'r rhai a ddarperid o dan y drefn newydd.

Mae llawer o'r rheilffyrdd hyn wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd; oherwydd hyn nid oedd yn rhaid i led y cledrau fod yr un faint.

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn cael ei chyfri'n reilffordd unigryw ac arbennig iawn oherwydd ei system rack-and-pinion.

Rheilffyrdd cledrau cul yng Nghymru golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Rheilffordd Talyllyn Archifwyd 2009-08-09 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 28 Medi 2012.