Defnyddir Rheol Naismith er mwyn amcangyfrif yr amser angenrheidiol ar gyfer taith cerdded mewn tir mynyddig. Dyfeisiwyd gan fynyddwr Albanaidd William Naismith ym 1892.

Yn ôl y rheol, mae rhaid cyfrif un awr ar gyfer pob tair milltir o daith (wastad) ar y fap, ac wedyn adio hanner awr ar gyfer pob mil troedfedd o ddringad (un munud ar gyfer pob deg medr). Anwybyddir y disgyniad yn y cyfrif; yn gyffredinol, mae disgyniadiau serth yn ychwanegu amser ac mae dysgyniadau graddol yn arbed amser, felly mae effaith gwbl y disgyniadau mewn taith arferol yn fechan.