Rhestr beirdd Cymraeg c.550–1600

Mae hyn yn rhestr o'r beirdd Cymraeg hysbys a ganai ar y mesurau caeth yn bennaf rhwng canol y 5fed ganrif a diwedd yr 16g. Sylwer nad yw'n cynnwys beirdd mesurau rhydd y cyfnod diweddar, sef o tua 1550 ymlaen, ond mae'n cynnwys ychydig o feirdd a flodeuai ar ddechrau'r 17g ond sy'n perthyn yn uniongyrchol i'r hen draddodiad barddol. Sylwer yn ogystal fod llawer o ganu'r cyfnodau cynnar yn waith beirdd anhysbys, e.e. yn achos canu crefyddol cynnar a cherddi gnomig a chwedlonol. Anwybyddir hefyd y rhan fwyaf o'r Canu Darogan, cerddi a dadogir yn aml ar y Taliesin chwedlonol, Myrddin a ffigurau eraill.

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

c.550–1100 golygu

Mae gwaith rhai o'r beirdd Cymraeg cynharaf wedi goroesi. Cysylltir canran uchel o'r canu gyda'r Hen Ogledd. Mae'r beirdd hyn yn perthyn i gyfnod yr Hengerdd, a adwaenir hefyd fel cyfnod y Cynfeirdd:

Mae enwau'r beirdd nad yw eu gwaith wedi goroesi yn cynnwys:

Awduraeth ansicr:

Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi o'r cyfnod a elwir "Canu'r Bwlch" yn gynnyrch beirdd anhysbys. Cydnabyddir erbyn heddiw nad yw Llywarch Hen yn ffigwr hanesyddol. Cred rhai ysgolheigion fod Heledd, yng nghylch Canu Llywarch Hen, yn brydyddes ond mae eraill yn dadlau mai ei chymeriad sy'n llefaru a bod y cerddi yn waith bardd anhysbys.

1100–1290 golygu

Arferid cyfeirio at y beirdd llys hyn fel y 'Gogynfeirdd', ond erbyn heddiw aferir yr enw Beirdd y Tywysogion am y beirdd a ganai i frenhinoedd a thywysogion Cymru yn y 12g a'r 13eg. Mae'r rhestr bron iawn yn gronolegol.

Beirdd eraill o'r cyfnod (nid yw eu gwaith wedi goroesi):

Brudiwr:

1290–1500 golygu

Dyma Feirdd yr Uchelwyr. Mae'r rhestr yn ceisio dilyn trefn amser ond nid yw'n gynhwysfawr gan fod gwaith rhai o feirdd llai y cyfnod, yn enwedig beirdd y 15g a dechrau'r ganrif olynol, yn aros yn y llawysgrifau. Anwybyddir hefyd enwau traddodiadol/chwedlonol beirdd y Canu Darogan, ac eithrio rhai enwau beirdd cyfnabyddedig diweddarach.

14eg ganrif (yn bennaf) golygu

15fed ganrif (yn bennaf) golygu

16eg ganrif golygu

Mae rhan fwyaf o feirdd hanner cyntaf y ganrif yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr. Nid yw'r rhestr yn cynnwys gwaith beirdd a ganai ar y mesurau rhydd newydd o ganol y ganrif ymlaen. Mae'n cynnwys uchelwyr a ganai "ar eu bwrdd eu hunain," heb fod yn feirdd proffesiynol. Nodir hefyd y beirdd proffesiynol olaf a ganai yn y 17g.

Clerwr oedd Robin Clidro (fl. tua 1545–1580)

Ffynonellau golygu

Seilir y rhestr ar gyfeiriadau yn y gweithiau hyn:

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Cyfres Beirdd y Tywysogion: Golygiadau safonol o waith y beirdd llys i gyd, mewn saith cyfrol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991-1996).
  • Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Cyfres a gyhoeddir gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth (prosiect sy'n cyhoeddi sawl cyfrol newydd bob blwyddyn).
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1945)