Rhestr brenhinoedd Tibet

Dyma restr o frenhinoedd Tibet o gyfnod brenhinllin Yarlung. Mae'r frenhinllin etifeddol honno yn dechrau yn y cyfnod cyn i Fwdhiaeth gyrraedd Tibet. Er i'r rhestr ddechrau gydag enwau brenhinoedd mytholegol, mae'n gorffen gyda thri o'r brenhinoedd Dharma sy'n cynrychioli ton gyntaf cyflwyno Bwdhiaeth i Dibet a chychwyn Bwdhiaeth Dibetaidd.

Mae blwyddyn gorseddu Nyatri Tsenpo, a ddechreuodd deyrnasu yn 127 CC, yn ôl traddodiad, yn cael ei chyfrif fel blwyddyn gyntaf y Calendr Tibetaidd, a dethli Losar, y Galan Ionawr Dibetaidd, i'w dathlu.

Dim ond yn chwedloniaeth Tibet y ceir hanes y 26 brenin cyntaf. Mae teyrnas Tibet ei hun yn cychwyn gyda'r 31ain frenin Tagbu Nyasig. Cyn hynny roedd grym y brenhinoedd yn gyfyngedig i gyffiniau dyffryn Yarlung.[1] Y tri Brenin Dharma oedd Songtsen Gampo, Trisong Detsen a Tri Ralpachen).[2] Gyda theyrnasiad y brenin olaf, Langdarma, torrwyd y deyrnas yn fân deyrnasoedd ac arglwyddiaethau.

Trefn Enw Geni a marw
1 Nyatri Tsenpo (gNya-khri btsan-po) (127 CC)
2 Mutri Tsenpo (Mu-khri btsan-po)
3 Dingtri Tsenpo (Ding-khri btsan-po)
4 Sotri Tsenpo (So-khri btsan-po)
5 Mertri Tsenpo (Mer-khri btsan-po)
6 Dakrri Tsenpo (gDags-khri btsan-po)
7 Siptri Tsenpo (Srib-khri btsan-po)
8 Drigum Tsenpo (Gri-gum btsan-po)
9 Chatri Tsenpo (Bya-khri btsan-po)
10 Esho Lek (E-sho legs)
11 Desho Lek (De-sho legs)
12 Tisho Lek (Thi-sho legs)
13 Guru Lek (Gu-ru legs)
14 Trongzhi Lek (vBrong-zhi legs)
15 Isho Lek (I-sho legs)
16 Zanam Zindé (Za-nam zin-lde)
17 Detrul Namshungtsen (Lde-vphrul nam-gzhung btsan)
18 Senöl Namdé (Se-snol gnam-lde)
19 Senöl Podé (Se-snol po-lde)
20 Senöl Nam (lDe-snol nam)
21 Senöl Po (lDe-snol po)
22 Degyel Po (lDe-rgyal po)
23 Detrin Tsen (lDe-sprin btsan)
24 Tori Longtsen (To-ri long-btsan)
25 Tritsen Nam (Khri-btsan nam)
26 Tridra Pungtsen (Khri-sgra dpung-btsan)
27 Tritog Jetsen (Khri-thog rje-btsan)
28 Lha Thothori Nyantsen (Lha tho-tho-ti gnyan-btsan) 5g
29 Trinyen Zungtsen (Khri-gnyan gzungs btsan)
30 Drongnyen Deu (vBrong-gnyan ldevu
31 Tagbu Nyasig (dMus-long dkon-pa bkra-gshis) 579-619
32 Namri Songtsen (gNam-ri Srong-btsan) 601-629
33 Songtsen Gampo (Srong-btsan sgam-po) 609-650
34 Gungri Gungtsen (Gung-ri gung-btsan) 638-655
35 Mangsong Mangtsen (Mang-srong mang-btsan) 653-679
36 Düsong Mangpojé (vDus-srong mang-po-rje) 679-704
37 Tridé Tsuktsen (Khri-lde gtsug-brtan / Mes Ag-tshom) 680-743
38 Trisong Detsen (Khri-srong lDe-btsan) 730-797
39 Muné Tsenpo (Mu-ne btsan-po) 762-786
40 Mutik Tsenpo (Mu-tig btsan-po) 764-817
41 Tri Ralpachen 806-838
42 Langdarma 803-842
- Ymrannu rhwng y meibion: Yumten (U-Tsang) ac Osung (tiriogaethau dwyrain Tibet)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Erik Haarh, "The Yar Lun Dynasty", yn The History of Tibet, gol. Alex McKay, cyf. 1 (Llundain, 2003), t. 144; Hugh Richardson, "The Origin of the Tibetan Kingdom", yn The History of Tibet, t. 159; Russell Kirkland, "The Spirit of the Mountain", yn The History of Tibet, t. 183
  2. "The Three Dharma Kings of Tibet". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-13. Cyrchwyd 2008-01-04.