Tref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Rhisga[1] (Saesneg: Risca).[2] Fe'i rhennir rhwng y ddwy gymuned Gorllewin Rhisga a Dwyrain Rhisga. Daw'r enw o'r Gymraeg Wenhwyseg "'r Is Ca'" am "Yr Is Cae".

Rhisga
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.608°N 3.091°W Edit this on Wikidata
Cod OSST245905 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhianon Passmore (Llafur)
AS/auChris Evans (Llafur)
Map

Mae'n gorwedd ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref ar un adeg. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddechrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd / 362m) a Thwmbarlwm i'r dwyrain (1,375 troedfedd / 419m).

Tai teras yn Rhisga

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Evans (Llafur).[3][4]

Mae côr meibion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a thros y mynydd. Lleolir amgueddfa ddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.

Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r Siartwyr, cyn iddynt orymdeithio i Gasnewydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 3 Tachwedd 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014