Rhisiart ap Rhys

bardd

Roedd Rhisiart ap Rhys (fl. c.1495 - c.1510) yn fardd, yn enedigol o Dir Iarll ym Morgannwg, yn ôl pob tebyg.

Rhisiart ap Rhys
GanwydTir Iarll Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1495 Edit this on Wikidata
TadRhys Brydydd Edit this on Wikidata
PlantLewys Morgannwg Edit this on Wikidata

Roedd Rhisiart yn fab i'r bardd Rhys Brydydd ac yn nai i fardd arall o Dir Iarll, Gwilym Tew (fl. c.1460 - c.1480), neu efallai'n frawd iddo.

Cedwir 36 o gerddi Rhisiart ap Rhys, y rhan fwyaf ohonyn' nhw'n gywyddau mawl a marwnad digon confensiynol, ond maen' nhw o werth hanesyddol fel y farddoniaeth gynharaf sydd ar gael i uchelwyr Morgannwg, gan gynnwys nifer sy'n disgyn o deuluoedd Normanaidd y fro.

Llyfryddiaeth golygu

  • Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd, 1976)



  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.