Rhosgadfan

pentref yng Ngwynedd

Mae Rhosgadfan ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref bach ddistaw, rhyw bum milltir i'r dwyrain o Gaernarfon - i fyny at y mynyddoedd. Mae ysgol gynradd yna, a thafarn i'r clwb pêl-droed, "Mountain Rangers." Mae'r pentref i gyd ar lethrau bryncyn Moel Tryfan, sy'n un o droedfryniau Eryri.

Rhosgadfan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0823°N 4.2185°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH506572 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Ar y ffordd i mewn i'r pentref, o Gaernarfon, trwy bentref Rhostryfan, i lawr tri-chwarter milltir o allt, mae hen gartref Kate Roberts - "Cae'r Gors". Mae hi yn un o awduron pennaf Cymru; "Brenhines y stori fer, yn ôl rhai". Mae yna sôn am adnewyddu "Cae'r Gors" yn ganolfan ymwelwyr i ddysgu amdani. Llenor arall a aned yn Rhosgadfan yw Richard Hughes Williams (tua 1878–1919), sef Dic Tryfan.

Rhosgadfan: Tir comin a chlwstwr o dai.

Uwchben y pentref a thu ôl i'r bryn, mae hen chwarel Rhosgadfan. Ond mae'n anodd iawn ei chyrraedd mewn car - haws yw cerdded ar hyd y llwybr o'r domen lechi i ogledd y bryn. Ceir golygfeydd gwych o gopa'r bryn: Bae Caernarfon, a goleuadau cychod IwerddonCaergybi, yr ochr draw i Ynys Môn - sydd i'w weld yn glîr i lawr i'r gorllewin, dros Afon Menai, a thref Caernarfon.

Mae clwb pêl-droed Mountain Rangers, sy'n chwarae yng Nghyngrair Caernarfon a'r Cylch, yn chwarae yn y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu