Rhosllannerchrugog

pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Rhosllannerchrugog[1] (weithiau Rhosllanerchrugog; Y Rhos neu Rhos ar lafar).

Rhosllannerchrugog
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0112°N 3.0522°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000241 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ295465 Edit this on Wikidata
Cod postLL14 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[2][3]

Hanes golygu

Roedd Rhosllannerchrugog yn rhan o hen blwyf Rhiwabon. Yr hen enw yr ardal oedd 'Morton uwch y Clawdd' (Saesneg: Morton Above the Dyke) neu yn gynt, yn Lladin, Morton Wallichorum (Saesneg: Welsh Morton). Ffurfiwyd plwyf newydd Rhosllannerchrugog yn 1844, a oedd yn cynnwys pentrefi Rhosllannerchrugog, Ponciau, Pant a Tre Ioan (Johnstown). Roedd Rhosllannerchrugog yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974 ac yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ond mae ym mwrdeistref sirol Wrecsam er 1996.

 
Croeso i'r Rhos

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhosllannerchrugog ym 1945 a 1961. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhosllannerchrugog (pob oed) (9,694)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosllannerchrugog) (2,210)
  
24%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosllannerchrugog) (7939)
  
81.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Rhosllannerchrugog) (1,668)
  
39.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Corau meibion golygu

Ceir dau gôr meibion:

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • J. Rhosydd Williams, Hanes Rhosllannerchrugog (1945)
  • William Phillips, Rhos-Llannerch-Rugog: Atgofion (1955)
  • Dennis W. Gilpin, Rhosllannerchrugog, Johnstown, Ponciau, Pen-y-cae: casgliad o luniau, 2 gyf. (1991-2)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu