Rhuthun

tref a chymuned yn Sir Ddinbych

Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Rhuthun ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg drwyddi. Roedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0).

Rhuthun
Nantclwyd y Dre
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaHenllan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1144°N 3.3106°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000174 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ127854 Edit this on Wikidata
Cod postLL15 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae Rhuthun wedi ei hefeillio â thref Brieg, Llydaw. Ceir dwy ysgol uwchradd: Ysgol Brynhyfryd a Ysgol Rhuthun (neu Ruthin School) sy'n ysgol breifat. Yr enw lleol ar yr ysgol breifat ydy "Ysgol y Capie Cochion".

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19g. Arferai fod yn brif dref Dogfeiling yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd. Mae stryd yn y dref yn dal i gael ei galw'n "Dog Lane" (neu "Stryd Dogfael") ar ei ôl. Mae Maen Huail yn garreg o flaen Banc Barclays ac sy'n coffau torri pen brawd Gildas, yn ôl y chwedl.

Hanes golygu

Dafydd ap Gruffudd (1238-83) a gododd y castell cyntaf i gael ei gofnodi ar y safle hwn, er bod tystiolaeth fod yma gastell cyn hyn. Cryfhawyd y castell yn helaeth gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280. Enw gwreiddiol y Dref oedd 'Castell Coch yng Ngwern-fôr, oherwydd y tywodfaen coch yn waliau'r castell.

Ar 16 Medi 1400 llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun yn ulw, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presennol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain: 'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!' Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint.

Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback. a adferwyd yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn ddigon trist...

Yn ôl yr hanesydd Peter Smith, 'Tan y 18g roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Tŷ Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...' [3]. Capel hynaf y dref yw Pendref.

 
Siop Rhonw, 1975: o gasgliad John Thomas (ffotograffydd), y Llyfrgell Genedlaethol

Nantclwyd y Dre golygu

Agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd ar droad y mileniwm, adeilad hynod, sy'n dyddio nôl i oddeutu 1445. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.[4][5]

Canolfan Grefft golygu

Ceir Canolfan Grefftau yn Rhuthun, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn enwedig am ei bensaerniaeth.

Pobol sy'n gysylltiedig â Rhuthun golygu

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhuthun (pob oed) (5,461)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhuthun) (2,195)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhuthun) (3702)
  
67.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhuthun) (886)
  
36.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Codau QRpedia yn Rhuthun golygu

Mae'r codau canlynol yn cysylltu'n uniongyrchol ag erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg:

Codau QRpedia yn Rhuthun / QRpedia codes in Ruthin
Building Street CADW HB: Lat / Long
Plas Coch, Rhuthun Stryd y Ffynnon 1347 53°06′49″N 3°18′28″W / 53.113473°N 3.307892°W / 53.113473; -3.307892 (Plas Coch (Y Cons Club))
Reebes Stryd Clwyd 1347 53°06′48″N 3°18′43″W / 53.113314°N 3.311887°W / 53.113314; -3.311887 (Reebes)
Castell Rhuthun Stryd y Castell - Castle St 1347 53°06′44″N 3°18′43″W / 53.112089°N 3.311928°W / 53.112089; -3.311928 (Ruthin Castle, Ruthin)
Gwesty'r Castell, Sgwar Sant Pedr Sgwar St Pedr 917 53°06′53″N 3°18′37″W / 53.114722°N 3.310335°W / 53.114722; -3.310335 (Gwesty'r Castell, Sgwar Sant Pedr)
Manorhaus Stryd y Ffynnon 941 53°06′50″N 3°18′33″W / 53.113935°N 3.309146°W / 53.113935; -3.309146 (Manorhaus)
Canolfan Grefft Rhuthun Lôn Parcwr - 53°07′03″N 3°18′30″W / 53.117377°N 3.308444°W / 53.117377; -3.308444 (Canolfan Grefft Rhuthun)
Carchar Rhuthun Stryd Clwyd 870 53°06′50″N 3°18′49″W / 53.113751°N 3.313608°W / 53.113751; -3.313608 (Carchar Rhuthun)
Gorsaf Reilffordd Rhuthun Ffordd yr Orsaf demolished 53°07′00″N 3°18′31″W / 53.116648°N 3.308496°W / 53.116648; -3.308496 (Gorsaf Reilffordd Rhuthun)
Y Saith Llygad Sgwar St Pedr - St Peter's Square 918 53°06′53″N 3°18′37″W / 53.114785°N 3.310352°W / 53.114785; -3.310352 (Y Saith Llygad)
Tafarn y Seren Stryd Clwyd - Clwyd St 858 53°06′48″N 3°18′49″W / 53.113356°N 3.313581°W / 53.113356; -3.313581 (Tafarn y Seren)
Yr Hen Lys, Rhuthun Sgwar St Pedr 913 53°06′51″N 3°18′38″W / 53.114254°N 3.310426°W / 53.114254; -3.310426 (Yr Hen Lys, Rhuthun)
Yr Hen Felin Stryd Clwyd 876 53°06′47″N 3°18′51″W / 53.113024°N 3.314303°W / 53.113024; -3.314303 (Yr Hen Felin)
Siop Nain Stryd y Ffynnon - Well St 938 53°06′50″N 3°18′36″W / 53.114015°N 3.310060°W / 53.114015; -3.310060 (Siop Nain (6 Well Street))
Nantclwyd y Dre Stryd y Castell - 833 53°06′48″N 3°18′39″W / 53.113449°N 3.310864°W / 53.113449; -3.310864 (Nantclwyd y Dre)
Ysgol Brynhyfryd Stryd y Rhos - 53°06′54″N 3°17′54″W / 53.114881°N 3.298342°W / 53.114881; -3.298342 (Ysgol Brynhyfryd)
2 a 2A Stryd y Ffynnon Stryd y Ffynnon ? 53°06′51″N 3°18′37″W / 53.114032°N 3.31015°W / 53.114032; -3.31015 (2 a 2A Stryd y Ffynnon)
Bwthyn y Rhos Stryd y Rhos 903 53°06′51″N 3°18′13″W / 53.114283°N 3.303703°W / 53.114283; -3.303703 (Bwthyn y Rhos)
Cloc Coffa Peers Sgwar Sant Pedr 87339 53°06′52″N 3°18′38″W / 53.114450°N 3.310581°W / 53.114450; -3.310581 (Cloc Coffa Peers)
Wyrcws Rhuthun Stryd y Rhos demolished 53°06′47″N 3°18′11″W / 53.113093°N 3.303114°W / 53.113093; -3.303114 (Wyrcws Rhuthun)
Hen Neuadd y Dref, Rhuthun Stryd y Farchnad 875 53°06′54″N 3°18′32″W / 53.115018°N 3.308805°W / 53.115018; -3.308805 (Hen Neuadd y Dref, Rhuthun)
Gatiau'r eglwys x 3 Sgwar St Pedr - St Peter's Church Gates 906 53°06′54″N 3°18′39″W / 53.115122°N 3.310811°W / 53.115122; -3.310811 (Gatiau'r eglwys)
Eglwys Sant Pedr, Rhuthun Sgwar St Pedr 905 53°06′55″N 3°18′39″W / 53.115400°N 3.310800°W / 53.115400; -3.310800 (Eglwys Sant Pedr, Rhuthun)
Clos yr Eglwys x 3 Clos yr Eglwys - Church Close 910 53°06′56″N 3°18′39″W / 53.115607°N 3.310840°W / 53.115607; -3.310840 (Clos yr Eglwys)
Rhuthun x 6 - - 53°06′52″N 3°18′38″W / 53.114450°N 3.310536°W / 53.114450; -3.310536 (Rhuthun)

Yn ychwanegol at y rhain mae 6 arall sy'n cysylltu gyda'r erthygl hon.

Cysylltiadau rhyngwladol golygu

Mae Rhuthun wedi'i gefeillio â:

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwyddoniadur Cymru
  4. 'Nantclwyd y Dre' gan Christopher J. Williams a Dr. Charles Kightly; Cyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, Haf 2007
  5. Gweler adroddiad Richard Suggett (RCAHMW): the earliest dated timber-framed town house in Wales.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol golygu