Rhyd

croesfan mewn afon

Lle bas mewn afon, ffrwd, neu gorff arall o ddŵr, y gellir ei groesi ar droed neu ar geffyl ac ati yw rhyd. Yn yr amser cyn i bontydd ddod yn gyffredin y rhyd oedd y man croesi arferol ar afonydd, yn arbennig yn achos afonydd llai a ffrydiau (defnyddio cwch i'w croesi oedd y dewis arall). Mewn mannau lle oedd y dŵr yn fwy dyfn ceir cerrig llam weithiau. Mae lleoliad rhydau yn gymorth mawr wrth geisio olrhain hen ffyrdd a llwybrau cynhanesyddol.

Rhyd ar y ffordd rhwng Y Mwynglawdd (Minera) a Llangollen
Rhyd ddi-enw ar hen lwybr ger Tal y Fan, Eryri
Mae hon yn erthygl ar y nodwedd ddaearyddol. Am ddefnydd arall o'r gair, gweler Rhyd (gwahaniaethu).

Oherwydd eu bod yn fannau strategol pwysig, mae rhydau yn cael eu cysylltu â brywdrau mewn hanes sawl gwlad. Yn llenyddiaeth y gwledydd Celtaidd mae cael arwyr yn ymladd mewn rhyd neu'n agos iddi yn olygfa gyffredin, yn enwedig yn achos llenyddiaeth Wyddeleg. Mae gan rai o rydau Cymru arwyddocád arbennig yn nhraddodiad y canu darogan a'r brudiau fel lleoedd a gysylltir â brwydrau tyngedfennol.

Mae rhyd yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd ym mywyd y wlad. Fel enghreifftiau gellid enwi Rhydaman a Rhydcymerau yn y de, Rhyd Ddu yn Eryri, ac ati. Yn aml roedd llwybrau o bentref i bentref yn defnyddio rhydau. Gellir gweld rhai o'r rhydau llai hyn wrth gerdded yn y bryniau.

Gorweddai rhai rhydau ar ffyrdd y porthmyn ac fe'i defnyddid i gael gyrroedd o wartheg dros afon. Ceir enghreifftiau o bentrefi a dyfodd yn ymyl rhydau gyda thafarnau a chyfleusterau eraill ar gyfer y porthmyn.

Gweler hefyd golygu