Mae Rhydgrawnt yn enw a ddefnyddir weithiau i gyfeirio at brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, y ddwy brifysgol hynaf yn y Deyrnas Unedig a'r byd Saesneg.[1] Gair wedi'i lunio o gymysgu enwau'r ddwy brifysgol ydy'r enw. Mae'n dilyn patrwm y term Saesneg Oxbridge, a ddefnyddir yn y Gymraeg hefyd i gyfleu'r un ystyr.

Yn 2006, daeth Prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen yn ail ac yn drydydd yn rhestr y Times Higher Education Supplement o'r brifysgolion ymchwil amlycaf yn y byd, ar ôl Prifysgol Harvard. Yn y gydran bwysicaf o system sgorio y THES, gofynnwyd i 3703 o academyddion ledled y byd ddethol hyd at 30 o brifysgolion a ystyrient yn sefydliadau ymchwil arweiniol yn eu maes. Yma, daeth Caergrawnt yn gyntaf, Rhydychen yn ail, a Harvard yn drydydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Er enghraifft: "Angen helpu mwy o fyfyrwyr i sicrhau lle yn Rhydgrawnt". Golwg360. Ar-lein: Golwg360. 18 Mehefin 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.