Rhyfel Cartref yr Alban

Roedd Rhyfel Cartref yr Alban yn rhyfel yn 1644 a 1645 rhwng y Brenhinwyr, cefnogwyr y brenin Siarl I a'r Cyfamodwyr, oedd wedi bod yn rheoli'r Alban ers 1639. Roedd y rhyfel yma yn rhan o gyfres Rhyfeloedd y Tair Teyrnas.

Rhyfel Cartref yr Alban
Enghraifft o'r canlynolnation at occurrence Edit this on Wikidata
Dyddiad1644 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Cartref Lloegr Edit this on Wikidata
LleoliadYr Alban Edit this on Wikidata
Map o'r Alban; 1644–51

Prif gadfridog y Brenhinwyr yn yr Alban oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose. Cododd fyddin, yn bennaf yn Ucheldiroedd yr Alban, a chyda chymorth milwyr o Iwerddon enillodd gyfres o fuddugoliaethau dros fyddinoedd llawer mwy niferus y Cyfamodwyr. Yn y diwedd, bu'r Cyfamodwyr yn fuddugol, a gorfodwyd Montroese i adael yr Alban.

Ym mis Mawrth 1650, dychwelodd Montrose i ymladd dros y brenin Siarl II, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin.

Baner yr AlbanEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.