Richard d'Avranches, 2il Iarll Caer

person milwrol (1093-1120)

Ail Iarll Caer oedd Richard d'Avranches (1094 – 1120). Olynodd ei dad Huw Flaidd pan fu farw yn 1101. Rheolai o'i gastell yn ninas Caer ac, fel ei dad, bu ganddo ran bwysig yn hanes Teyrnas Gwynedd wrth i arglwyddi Normanaidd y Mers geisio cryfhau ac ymestyn eu hawdurdod yng ngogledd Cymru.

Richard d'Avranches, 2il Iarll Caer
Ganwydc. 1093 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1120 Edit this on Wikidata
Barfleur Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
TadHugh d'Avranches Edit this on Wikidata
MamErmentrude o Claremont Edit this on Wikidata
PriodMathilde of Blois Edit this on Wikidata
Arfau Richard d'Avranches

Hanes golygu

Roedd yn fab i Huw gan ei wraig Ermentude o Clermont. Mae'n debyg nad etifeddodd yr iarllaeth yn swyddogol tan 1107 gan nad oedd ond 7 mlwydd oed pan laddwyd ei dad. Priododd Lucie-Mahaut, merch Stephen de Blois.

Yn 1114 cymerodd ran yn yr ymgyrch yn erbyn Gwynedd gan y brenin Harri I o Loegr. Doedd Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, ddim yn ddigon cryf i wrthsefyll ac ildiodd. Er i Gruffudd ildio, llwyddodd i ddal ei deyrnas a daeth dim llawer o'r ymgyrch.

Boddodd pan suddwyd y Llong Wen yn 1120, yn 26 oed. Aeth yr iarllaeth, trwy law Maud, chwaer Huw d'Avranches, i Ranulf I, yn 1121.