Protein gwenwynig yw risin a ddaw o'r planhigyn trogenllys (Ricin communis). Gwneir y gwenwyn o'r gwastraff a gynhyrchir wrth brosesu hadau'r trogenllys ("hadau castor"). Gall y gwenwyn bod ar ffurf powdwr, erosol, neu beled, a gellir mynd i mewn i'r corff trwy ei fwyta, ei anadlu, neu drwy bigiad.[1] Mae'n bosib i risin effeithio ar y corff trwy fwyta hadau'r trogenllys yn unig, ond gan amlaf mae angen creu risin yn fwriadol i'w alluogi i wenwyno pobl.[2]

Strwythur gemegol risin.

Mae risin yn atal celloedd y corff rhag creu proteinau sydd eu hangen arnynt, ac felly mae'r celloedd yn marw. Yn y bôn gall hyn yn effeithio ar yr holl corff, gan achosi marwolaeth.[2] Dim ond dos o 500 microgram sydd angen i risin fod yn angheuol i fod dynol.[1]

Arwyddion a symptomau golygu

Mae prif symptomau gwenwyn risin yn dibynnu ar sut y derbynwyd y risin. Os yw person wedi anadlu'r risin i mewn i'w gorff, ceir anhawster anadlu, twymyn, peswch, cyfog, a phoen yn y frest, rhwng 4 a 24 awr wedi iddynt anadlu'r risin. Gall y claf hefyd chwysu'n drwm a dioddef oedema ysgyfeiniol, ac o bosib bydd ei groen yn troi'n las. Gall pwysedd gwaed isel a methiant anadlu yna achosi marwolaeth. Os yw person yn cnoi neu'n llyncu risin, bydd symptomau'n ymddangos o fewn 10 awr gan gynnwys chwydu a dolur rhydd, ac yn hwyrach dadhydradu a phwysedd gwaed isel ac o bosib confylsiynau a gwaed yn ei wrin. O fewn ychydig o ddyddiau mae'n bosib bydd yr afu, y ddueg, a'r arennau'n methu gan ladd y claf. Yn anaml bydd risin yn mynd i mewn i'r corff trwy'r croen, ond gall cyffwrdd risin achosi cochni a phoen ar y croen a'r llygaid. Mewn achosion difrifol, bydd y gwenwyn yn effeithio ar nifer o organau'r corff a gall y claf marw o fewn 36 i 72 awr, yn dibynnu ar ddos y gwenwyn a sut daeth i mewn i'r corff.[2]

Triniaeth golygu

Nid oes gwrthwenwyn am risin, felly yr unig modd i'w drin yw i wared y corff rhag y gwenwyn ac i leihau ei effaith.[2]

Hanes golygu

 
Diagram o'r fecanwaith yn yr ymbarél a ddefnyddiwyd i ladd Georgi Markov.

Cafodd y llenor Bwlgaraidd Georgi Markov ei lofruddio yn Llundain ym 1978, gan ddyn a ddefnyddiodd ymbarél i saethu peled o risin i mewn i goes Markov.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1630. ISBN 978-0323052900
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Facts About Ricin. Centers for Disease Control and Prevention, Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: