Robert Ferrar

merthyr ac esgob Protestannaidd

Esgob Tyddewi rhwng 1548 a'i losgi wrth y stanc ym 1555 oedd Robert Ferrar (tua 150430 Mawrth 1555). Ganed yn Halifax, Swydd Efrog, rywbryd rhwng 1502 a 1505.

Robert Ferrar
Ganwyd1500s Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mawrth 1555 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Sodor a Manaw Edit this on Wikidata

Dechreuodd ei yrfa eglwysig ystormus fel Esgob Sodor a Manaw. Yn bleidiwr brwd y Diwygiad Protestannaidd, fe'i penodwyd yn Esgob Tyddewi o dan Edward VI o Loegr ar 9 Medi 1548 diolch i ddylanwad ei noddwyr Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, a Dug Somerset. Fe'i carcharwyd yn ddiweddarach gan Edward VI ar ôl ymrafael rhyngddo a chanoniaid Tyddewi.

Llawysgrif gan John Day o Robert Ferrar, Merthyr Protestanaidd.

Cafodd ei gyhuddo o ddangos gormod o gariad tuag y Cymry, ac yn benodol o danseilio'r Deddfau Uno a waharddai ddefnyddio'r iaith Gymraeg gan unrhyw swyddog o dan Goron Lloegr. Yn ôl ei gyhuddwyr, roedd Ferrar wedi datgan,

"The Welsh are more gentle (na'r Saeson) and not without cause, for ye were the Britons sometime and had the realm in governance, and, if the prophesy be true, ye shall be Britons again and this land shall be called Great Britain.[1]

Ac yntau'n dal yn y carchar, fe'i cyhuddwyd o heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555. Fe'i olynwyd fel Esgob Tyddewi gan Henry Morgan, gŵr o Sir Benfro, un o'r rhai a gondemniodd Ferrar yn y lle cyntaf.

Ceir carreg goffa i Robert Ferrar, a godwyd yn 1843, ar sgwâr Caerfyrddin. Cynhwysodd y bardd Saesneg Ted Hughes gerdd amdano yn ei gyfrol The Hawk in the Rain.

Cerdd Ted Hughes golygu

Ysgrifennodd Ted Hughes gerdd am ei ferthyru, sef The Martyrdom of Bishop Farrar,[2] sy'n gorffen gyda'r llinellau:

Gave all he had, and yet the bargain struck
To a merest farthing his whole agony,
His body’s cold-kept miserdom on shrieks
He gave uncounted, while out of his eyes,
Out of his mouth, fire like a glory broke,
And smoke burned his sermon into the skies.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyfynnwyd gan Aneirin Talfan Davies yn Crwydro Sir Gâr (Llandybie, 1955; arg newydd 1970), tt.125-6
  2. poetscorner.blog; adalwyd 13 Mawrth 2020.

Gweler hefyd golygu