Gyrrwr rasio yw Robert Józef Kubica (ganed 7 Rhagfyr 1984 yn Kraków, Gwlad Pwyl)[1], y gyrrwr cyntaf o Wlad Pwyl i gystadlu yn y World Endurance Championship gyda Prema Powerteam. Arferai gystadlu yn Fformiwla Un. O 2006 i 2009 roedd e'n gyrru i dîm BMW-Sauber. Cafodd ddyrchafiad o yrrwr prawf i yrrwr rasio yn ystod tymor 2006. Ym mis Mehefin 2008 enillodd ei ras gyntaf yn Grand Prix Canada. O 2010 i 2011 roedd e'n gyrru i Renault. Diweddwyd ei yrfa fel gyrrwr Fformiwla Un ar ôl iddo gael ei anafu'n ddifrifol mewn damwain wrth yrru yn rali Ronde di Andora ar 6 Chwefror 2011.

Robert Kubica
Ganwyd7 Rhagfyr 1984 Edit this on Wikidata
Kraków Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr ceir cyflym, gyrrwr Fformiwla Un Edit this on Wikidata
Gwobr/auPolish Sportspersonality of the Year Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBMW Sauber, Renault F1 Team, Williams Racing, Alfa Romeo Racing Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfeiriadau golygu

  1. "Robert Kubica". www.fakt.pl. Cyrchwyd 2019-05-17.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Bwylwr neu Bwyles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.