Cyn-arlywydd Simbabwe oedd Robert Gabriel Mugabe (21 Chwefror 19246 Medi 2019). Ganed ym mhentref Matibiri, ardal Zvimba, i'r gogledd-orllewin o Salisbury (Harare heddiw).

Robert Mugabe
GanwydRobert Gabriel Mugabe Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1924 Edit this on Wikidata
Kutama Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 2019 Edit this on Wikidata
Gleneagles Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSimbabwe Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Achimota School
  • Prifysgol Fort Hare
  • Prifysgol Rhydychen
  • Kutama College
  • University of South Africa
  • University of London Worldwide Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Simbabwe, Prif Weinidog Simbabwe, Chairperson of the African Union, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Q67170226, Secretary General of the Non-Aligned Movement, Defence Minister of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolZimbabwe African National Union – Patriotic Front, Zimbabwe African People's Union, ZANU Edit this on Wikidata
TadGabriel Mugabe Matibiri Edit this on Wikidata
MamAmai Bona Mugabe Edit this on Wikidata
PriodGrace Mugabe, Sally Mugabe Edit this on Wikidata
PlantBona Mugabe, Chatunga Bellarmine Mugabe, Michael Nhamodzenyika Mugabe, Robert Peter Mugabe Jr. Edit this on Wikidata
PerthnasauPerence Shiri Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Urdd José Martí, Order of Augusto César Sandino, U Thant Peace Award, Grand Cross of the Order of Good Hope, Order of Agostinho Neto, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Order of Jamaica, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Order of Good Hope, Confucius Peace Prize Edit this on Wikidata
llofnod

Bu'n gweithio fel athro am gyfnod, gan gynnwys rhai blynyddoedd yn Ghana, lle dylanwadwyd arno gan Kwame Nkrumah. Yn 1960, dychwelodd i Dde Rhodesia ac ymunodd a'r Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol, a ddaeth yn ddiweddarch yn fudiad y Simbabwe African Peoples Union (ZAPU) dan Joshua Nkomo. Yn 1963 cynorthwyodd y Parchedig Ndabaningi Sithole i ffurfio'r Simbabwe African National Union (ZANU), yn gwrthwynebu llywodraeth Ian Smith yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Rhodesia. Yn 1964 fe'i carcharwyd am siarad yn erbyn y llywodraeth, a bu yng ngharchar am ddeng mlynedd. Enillodd dair gradd academig tra yn y carchar.

Wedi ei rhyddhau, symudodd i Mosambic a daeth yn arweinydd ZANU. Erbyn 1978 yr oedd llywodraeth Ian Smith wedi gorfod cydnabod na allai rheolaeth y lleiafrif gwyn barhau, ac arwyddwyd cytundeb gyda Abel Muzorewa, Ndabaningi Sithole ac eraill i rannu grym a chynnal etholiadau. Dychwelodd Mugabe i Simbabwe yn Rhagfyr 1979. Daeth yn Brif Weinidog Simbabwe yn 1980 ac yn Arlywydd cyntaf y wlad yn 1987.

Mae cryn nifer o lywodraethau wedi beirniadu llywodraeth Mugabe yn hallt am lygredd, camdrin gwrthwynebwyr gwleidyddol a chymeryd tir oddi wrth ffermwyr gwynion. Yn y blynyddoedd diwethaf mae economi Simbabwe wedi dirywio yn fawr, gyda lefel uchel o chwyddiant a diwethdra.

Yn Nhachwedd 2017, cafodd y llywodraeth Mugabe ei ddymchwel mewn coup d'état. Ymddiswyddodd fel arlywydd ar 21 Tachwedd 2017.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Mugabe wedi ymddiswyddo , Golwg360, 21 Tachwedd 2017.