Robin goch

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Robin Goch)
Robin goch

, ,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Erithacus[*]
Rhywogaeth: Erithacus rubecula
Enw deuenwol
Erithacus rubecula
(Linnaeus, 1758)
Dosbarthiad y rhywogaeth

Mae'r Robin goch (Erithacus rubecula) yn un o'r mwyaf adnabyddus o'r holl adar. Arferai gael ei ystyried yn aelod o deulu'r Turdidae, y bronfreithod, ond yn ddiweddar mae wedi ei ail-ddosbarthu i deulu'r Muscicapidae.

Enwau mewn ieithoedd Celtaidd eraill:

Mae'n aderyn cyfarwydd am ei fod yn hawdd ei adnabod gyda'i frest goch, ac am ei fod yn aderyn dof yn Ynysoedd Prydain, yn barod i ddod yn agos iawn at unrhyw un sy'n gweithio yn yr ardd, er enghraifft, i chwilio am bryfed. Ambell dro mae hyd yn oed yn barod i ddod i mewn i dai i gael ei fwydo. Mewn rhannau o'r gweddill o Ewrop nid yw mor ddof.

Erithacus rubecula
Cuculus canorus + Erithacus rubecula

Yn anarferol, mae'r Robin Goch yn canu trwy'r flwyddyn, nid yn y gwanwyn yn unig. Mae'r gân yn yr hydref a'r gaeaf yn wahanol i'r gân yn y gwanwyn a'r haf. Mae'n nythu mewn unrhyw dwll neu gornel addas. Gall fod yn aderyn ymosodol dros ben - os daw Robin Goch arall i mewn i'w diriogaeth gallant weithiau ymladd nes i un ladd y llall. Gall unrhyw ddarn bach o liw coch wneud i'r aderyn ymosod.

Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeaf yn arbennig o oer, ond er enghraifft mae adar o Sgandinafia a Rwsia yn dod i Brydain i aeafu. Gellir eu hadnabod trwy fod y fron yn fwy oren yn hytrach na choch.

Mae llawer o chwedloniaeth ynglŷn â'r Robin Goch, er enghraifft i egluro sut y cafodd ei fron goch. Ystyrir y Robin yn symbol o'r Nadolig, ac mae i'w weld yn aml ar gardiau Nadolig. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac ychydig o erddi sydd heb Robin Goch o'u cwmpas. Dyma englyn gan Alan Llwyd sy'n creu darlun o blentyn newynog:

Newyn, a ni'n ciniawa, yw ei ran

Ymgreiniwr am fara!
Colsyn ar ewyn yr iâ
A'i big oer yn begara.[1]

Teulu'r Turdidae (Robinod) golygu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Bronlas Luscinia svecica
 
Eos Luscinia megarhynchos
 
Eos fraith Luscinia luscinia
 
Gwybedog jyngl aelwyn Vauriella gularis
 
Robin Swinhoe Larvivora sibilans
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. Edrych Drwy Wydrau Lledrith gan Alan Llwyd (Gwasg Christopher Davies (5); tud 18.