Aderyn chwedlonol gwyn anferth yw'r roc (Perseg رخ rokh), y credid ei fod yn ddigon cryf i ddwyn a bwyta eliffantod. Ceir cyfeiriadau at y roc yng ngwaith llenorion o'r Dwyrain Canol o'r 8g ymlaen, e.e. gan yr hanesydd polymath Ibn Batuta ac yn y casgliad o chwedlau gwerin poblogaidd a elwir y Nosweithiau Arabaidd neu Mil ac un o nosweithiau.

Roc yn dinistrio llong Sindbad (darlun gan yr arlunydd Rwsiaidd Ivan Bilibin)

Mae sawl esboniad rhesymegol yn cael ei gynnig am fodolaeth y roc. Gwelir eryrod ac adar mawr eraill yn dwyn oen weithiau, er enghraifft. Mae'n bosibl yn ogystal fod chwedl y roc wedi tyfu o adroddiadau teithwyr oedd wedi gweld aderyn cawraidd gwirioneddol, yr Aepyornis neu Aderyn Eliffant o Fadagasgar, aderyn nad oedd yn gallu hedfan oedd â thaldra o 3m ond sydd wedi marw allan ers canrifoedd. Ymgeisydd arall yw'r estrys.

Roedd chwedl y roc yn gyfarwydd i bobl led led gorllewin Asia. Daeth y chwedl i'r Gorllewin yn sgîl teithiau anturiaethwyr fel Marco Polo ac, yn ddiweddarach, trwy gyfieithiadau ac addasiadau o chwedlau Abd al-Rahman a Sindbad y Morwr yn y "Nosweithiau Arabaidd". Yn ôl Marco Polo mae'r rukh, neu'r gryphon,

yn union run fath â'r eryr ond eu bod nhw'n anferth iawn... Maen nhw mor fawr fel eu bod nhw'n medru dal eliffant a'i ddwyn i fyny yn uchel i'r awyr. Wedyn mae'n gadael i'r eliffant ddisgyn a chael ei falurio'n yfflon ac ar ôl hynny mae'r aderyn gryphon yma yn eistedd yng nghanol y gweddillion ac yn bwyta wrth ei fodd... Mae ganddynt rychwant adenydd trideg troedfedd... (Marco Polo, Y Teithiau, llyfr VIII).

Mor ddiweddar â'r 16g roedd Ewropeiaiad yn credu ym modolaeth y creadur rhyfedd hwn.

Adar mytholegol cyffelyb golygu

Mae'r roc yn debyg iawn i anqa y Dwyrain Canol ac i'r ffenics; gellid ei gymharu hefyd â'r simurgh Persaidd a'r Ziz Iddewig. Ymhellach i'r dwyrain ceir y garuda, aderyn Vishnu, ym mytholeg India, a ddisgrifir fel "brenin yr adar" yn y Panchatantra.

Llyfryddiaeth golygu

  • Edward Lane (cyf.), Arabian Nights, pennawd xx., n.22, n.62.
  • R. E. Latham (cyf.), The Travels of Marco Polo (Llundain, 1958)

Dolenni allanol golygu