Pêl-droediwr Cymreig oedd Ronald Frederick "Ron" Stitfall (14 Rhagfyr 192522 Mehefin 2008).[1]

Ron Stitfall
GanwydRonald Frederick Stitfall Edit this on Wikidata
14 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 2008 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Caerdydd, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd.

Roedd Stitfall yn cefnogi Dinas Caerdydd fel bachgen ifanc, gwyliodd e nhw ym Mharc Ninian yn aml cyn ymuno â’r clwb ym 1939. Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd e mewn gemau cyfeillgar cyn ymuno â’r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd ei gêm broffesiynol gyntaf e ym mis Hydref yn lle Alf Sherwood a oedd i ffwrdd ar ddyletswydd rhyngwladol dros Gymru yn erbyn Bradford City. Gorffennodd y gêm yn 0-0 ar ôl i Stitfall flocio’r bêl ar y llinell yn hwyr yn y gêm. Aeth Ron Stitfall ymlaen i chwarae mewn nifer o safle yn ystod ei yrfa cynnar. Yn nhymor 1949/1950 chwaraeodd fel ymosodwr blaen a sgoriodd e 5 gôl. Er gwaethaf y sbel hwn aeth e ymlaen i sgorio dim ond 8 gôl yn ystod ei yrfa. Chwaraeodd e 402 gêm dros Ddinas Caerdydd. Chwaraeodd ei frawd e Albert yn yr un tîm Caerdydd gyda Ron a chwaraeodd eu brawd nhw Bob dros yr ail dîm.

Gyrfa ryngwladol golygu

Dros Cymru, chwaraeodd Ron 2 waith, y tro cyntaf yn erbyn Lloegr, collon nhw 5-2. Daeth ei gêm olaf e dros Cymru 5 mlynedd yn ddiweddarach yn erbyn Tsiecoslofacia. Pan ymddeolodd o chwarae hyfforddodd dîm ieuenctid Caerdydd a oedd y cynnwys John Toshack, yna hyfforddodd dîm ieuenctid Casnewydd a thîm ieuenctid Cymru hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "FAW mourn defender Ron Stitfall" (yn Saesneg). BBC Sport. 24 Mehefin 2008. Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.