Lleidr o Sais oedd Ronald Arthur Biggs (8 Awst 192918 Rhagfyr 2013) oedd yn un o'r criw o 15 o ladron yn y Lladrad Trên Mawr ar 8 Awst 1963, gan ddwyn £2.6 miliwn. Cafodd Biggs cyfran o £147,000. Cafwyd yn euog o ysbeiliad arfog a fe'i ddedfrydwyd ar 15 Ebrill 1964 i garchar am 30 mlynedd. Ar 8 Gorffennaf 1965 dihangodd o Garchar Wandsworth a wnaeth ffoi i Awstralia gyda'i deulu. Wrth i'r heddlu nesu yn ei chwiliad amdano, symudodd Biggs ar ei hun i Rio de Janeiro ym Mrasil. Ni lwyddodd yr awdurdodau Prydeinig i'w estraddodi, ond dychwelodd Biggs i'r Deyrnas Unedig ar liwt ei hunan yn 2001 a chafodd ei arestio a'i garcharu. Cafodd ei ryddhau yn 2009 am resymau iechyd, a bu farw yn 84 oed yn 2013.[1]

Ronnie Biggs
Ganwyd8 Awst 1929 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 2013 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Barnet Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwaith y saer, hunangofiannydd, lleidr, canwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
PlantChris Brent, Michael Biggs Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.