Ymgyrchydd hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau oedd Rosa Parks (4 Chwefror 191324 Hydref 2005).

Rosa Parks
Ganwyd4 Chwefror 1913 Edit this on Wikidata
Tuskegee, Alabama Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 2005 Edit this on Wikidata
Detroit Edit this on Wikidata
Man preswylDetroit Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethperson cyhoeddus, gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Medal Spingarn, Ellis Island Medal of Honor Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Rosa Parks fel Rosa Louise McCauley yn Tuskegee, Alabama. Yn ddiweddarach symudodd i Pine Level, gerllaw Montgomery, Alabama. Yn 1932, priododd Rosa Raymond Parks, barbwr o Montgomery. Dechreuodd weithio gyda'r ymgyrch hawliau sifil yn y 1940au.

Yn y cyfnod yma, disgwylid i bobl dduon ar fysiau Montgomery ildio eu seddau os oedd person gwyn angen sedd. Ar 1 Rhagfyr 1955, roedd Parks yn teithio ar fws pan ddywedodd y gyrrwr wrthi am ildio ei sedd i wneud lle i deithiwr gwyn. Gwrthododd, a galwyd yr heddlu, a'i cymerodd i'r ddalfa. O'r digwyddiad yma y deilliodd Boicot Bysiau Montgomery, oedd yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes y Mudiad Hawliau Sifil. Cynorthwyodd Martin Luther King gyda'r ymgyrch, a hyn ddaeth ag ef i amlygrwydd gyntaf. Yn y diwedd rhoddwyd diwedd ar wahaniaethu ar sail lliw ar y bysiau.

"Mae pobl o hyd yn dweud na fu i mi roi fy sedd i fyny oherwydd fy mod yn flinedig, ond nid yw hynny'n wir. Doeddwn i ddim yn gorfforol flinedig. Na, yr unig flinder oedd gennyf oedd y blinder o roi 'fewn."

Rosa Parks.

"Hoffwn gael fy nghofio fel person a oedd eisiau bod yn rhydd...fel y gall pobl eraill hefyd fod yn rhydd."

Rosa Parks.