Rudolf Hess

gwleidydd, hedfanwr (1894-1987)

Un o arweinyddion llywodraeth Natsïaidd yr Almaen oedd Rudolf Walter Richard Hess (26 Ebrill 1894 - 17 Awst 1987).

Rudolf Hess
GanwydRudolf Walter Richard Heß Edit this on Wikidata
26 Ebrill 1894 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 1987 Edit this on Wikidata
Spandau Prison Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, hedfanwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Deputy Führer, Reichsminister Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
TadFritz Hess Edit this on Wikidata
MamClara Münch Edit this on Wikidata
PriodIlse Hess Edit this on Wikidata
PlantWolf Rüdiger Hess Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes uchel Urdd Imperial yr Saethau Coch, Bathodyn y Parti Aur, Y Groes Haearn Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Hess yn Alexandria, yr Aifft, i deulu Almaenig. Symudodd y teulu i'r Almaen yn 1908. Bu'n ymladd fel milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yna, wedi iddo gael ei glwyfo, fel arwyrennwr. Wedi'r rhyfel, symudodd i München, lle cyfarfu ag Adolf Hitler. Daeth yn ddirprwy i Hitler yn y Blaid Natsïaidd.

Ar 10 Mai, 1941, hedfannodd Hess i'r Alban, gyda'r bwriad o geisio cynnal trafodaethau heddwch rhwng yr Almaen a'r Deyrnas Unedig. Roedd hyn heb awdurdod Hitler. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a chadwyd ef am y rhan fwyaf o weddill cyfnod y rhyfel yn ysbyty filwrol Maindiff Court, Llandeilo Bertholau ger Y Fenni.

Ar ddiwedd y rhyfel, roedd Hess yn un o'r diffinyddion ym mhrif achos Treialon Nuremberg, er fod rhai arbenigwyr yn credu nad oedd ei iechyd meddyliol yn ddigon da i'w roi ar brawf. Cafwyd ef yn euog, a'i ddedfrydu i garchar am oes. Cadwyd ef yn Ngharchar Spandau hyd ei farwolaeth yn 1987. Y farn gyffredinol yw iddo ladd ei hun, ond cred rhai iddo gael ei lofruddio.