Awdur a gwleidydd Basgaidd oedd Sabino Arana Goiri, hefyd Arana ta Goiri'taŕ Sabin (26 Ionawr 186525 Tachwedd 1903). Ef oedd sylfaenydd Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV), ac ystyrir mai ef oedd tad cenedlaetholdeb Basgaidd.

Sabino Arana
GanwydSabin Polikarpo Arana Goiri Edit this on Wikidata
25 Ionawr 1865 Edit this on Wikidata
Bilbo Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1903 Edit this on Wikidata
Sukarrieta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, national revival activist, gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
MudiadEuskal Pizkundea Edit this on Wikidata
TadSantiago Arana Edit this on Wikidata
PriodNikolasa Atxika-Allende Edit this on Wikidata
PerthnasauVicente de Arana Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Abando, Bilbao. Dysgodd yn iaith Fasgeg fel gŵr ieuanc, a gwnaeth lawer o waith i geisio safoni'r orgraff. Bu farw yn Sukarrieta yn 38, o ganlyniad i glwyf Addison, a gafodd tra yng ngharchar. Roedd wedi ei garcharu am yrru neges i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Theodore Roosevelt, yn ei ganmol am gynorthwyo Ciwba i ddod yn annibynnol ar Sbaen.

Dyfyniadau o waith Sabino Arana golygu

“Nid wyf yn mynnu dim byd imi fy hun, yr wyf yn ei mynnu er mwyn Bizkaia; byddwn yn gadael iddyn nhw dorri fy nghorn gwddf â chyllell nid unwaith ond canwaith heb ofyn hyd yn oed cof i’m enw, os gwyddwn mai atgyfodi fy mamwlad a ddilynai.” El Juramento de Larrázabal, 1893

“Elfen anhepgor i genedl y Basgiaid yw’r Euskara, hebddi hi mae ein sefydliadau yn annychmygol.” 1886

“Mae ’na wahaniaeth ethnograffig rhwng bod yn Sbaenwr a bod yn Fasgwr, mae’r hil Fasgaidd yn hollol wahanol i’r hil Sbaenaidd.” Bizkaitarra, nº 11

“Mae’r rhai sy’n adnabod y Jeswitiaid yn gwybod bod cenedlaetholdeb Basgaidd yn gwbl Gatholig.” El Correo Vasco, 1899

“Daeth gyda’r goresgyniad maketo… annuwioldeb, pob math o anfoesoldeb, cabledd, trosedd, rhydd-feddwl, anghrediniaeth, sosialaeth, anarchiaeth… ei waith ef yw hyn i gyd.”