Dinas yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León yn Sbaen a phrifddinas talaith Salamanca yw Salamanca. Saif ar Afon Tormes, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 190,025. Mae'n enwog fel safle un o brifygolion hynaf ac enwocaf Sbaen ac am y nifer fawr o adeiladau hanesyddol o ddiddordeb pensaernïol.

Salamanca
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasSalamanca City Edit this on Wikidata
Poblogaeth143,954 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethCarlos Manuel García Carbayo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantJohn of Sahagún Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Salamanca Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd39.56 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr798 metr Edit this on Wikidata
GerllawTormes Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSanta Marta de Tormes, Carbajosa de la Sagrada, Arapiles, Castile and León, Aldeatejada, Carrascal de Barregas, Doñinos de Salamanca, Villamayor, Villares de la Reina, Cabrerizos Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.965°N 5.6642°W Edit this on Wikidata
Cod post37001–37009 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Salamanca Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethCarlos Manuel García Carbayo Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Salamaca fel Salmantica gan lwyth Celtaidd y Vaceo. Yn ddiweddarach cipiwyd y safle gan y cadfridog Carthaginaidd Hannibal, a chafodd yr enw Helmantica. Yn y cyfnod Rhufeinig daeth yn ddinas bwysig. Yn ddiweddarach daeth yn eiddo i'r Fisigothiaid ac yn 712 cipiwyd hi gan fyddin Islamaidd. Diboblogwyd hi bron yn llwyr yn y canrifoedd nesaf, a dim ond yn y 12g y bu cynnydd eto. Sefydlwyd y brifysgol yn 1218. Ymhlith y myfyrwyr yma bu Hernán Cortés, Miguel de Cervantes, Ignatius Loyola, Sant Ioan y Groes, Miguel de Unamuno, Mateo Aleman a'r Cymro Sant John Roberts. Ysgolheigion prifysgol Salamanca, yng Nghyngor Burgos yn 1512 a ddatganodd hawl trigolion brodorol cyfandir America i fywyd a rhyddid, efallai y datganiad rhyngwladol cynharaf o hawliau dynol.

Eglwys Gadeiriol Salamanca

Yn 1985 cyhoeddwyd hen ddinas Salamanca yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yn 2002 roedd Salamanca yn Brifddinas Diwylliant Ewrop.