Salford

Dinas ym Manceinion Fwyaf, Lloegr

Dinas ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Salford.[1] Saif ar dro yn Arfon Irwell, sy'n ffurfio rhan o'r ffin rhwng Salford a dinas Manceinion i'r dwyrain. Dyma ran ganolog bwrdeistref fetropolitan Dinas Salford (Saesneg: City of Salford). Daw enw Salford o'r gair Hen Saesneg Sealhford, sy'n golygu "y rhyd (ford) ger y coed helyg (sealh." Poblogaeth: 72,750 (2011).

Salford
Mathdinas, dinas fawr, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Salford, County Borough of Salford
Poblogaeth103,886 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Lünen, Narbonne, Saint-Ouen-sur-Seine, Clermont-Ferrand Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd20.97 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr46 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Irwell Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwinton, Culcheth and Glazebury Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4828°N 2.2931°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ805985 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Salford (gwahaniaethu).

Yn hanesyddol mae Salford yn rhan o Swydd Gaerhirfryn. Cyn y Chwyldro Diwydiannol roedd Salford yn ganolfan bwysicach o lawer na Manceinion ei hun ond newidiodd y sefyllfa o ddiwedd y 18g ac erbyn heddiw Manceinion yw'r ddinas fwyaf o bell ffordd.

Mae Salford yn gartref i sawl sefydliad addysg, yn cynnwys Prifysgol Salford.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 22 Awst 2020

Dolen allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Fanceinion Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato