Seiclwr rasio trac Cymreig ydy Samuel James "Sam" Harrison (ganwyd 24 Mehefin 1992).[1]

Sam Harrison
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnSamuel James Harrison
Dyddiad geni (1992-06-24) 24 Mehefin 1992 (31 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac, Ffordd, Cyclo-cross, Beicio Mynydd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr cenedlaethol sawl gwaith
Golygwyd ddiwethaf ar
15 Mehefin 2009

Bywgraffiad golygu

Daw Harrison o Rhisga, Casnewydd. Roedd ei ffrindiau wedi rhoi cynnig ar reidio'r trac yng Nghasnewydd, a oedd yn newydd ar y pryd, felly rhoddodd Harrison gynnig arni hefyd. Roedd yn 13 oed,[2] a chyn bo hir, dechreuodd rasio gyda chlwb "Cwmcarn Paragon". Dewiswyd ef i fod yn aelod o Raglen Datblygu Olympaidd British Cycling yn 2008. Mae'n anelu at gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012.[3]

Cafodd Harrison ei enwebu ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Iau'r Flwyddyn y BBC yn 2008.[1][4] Dewiswyd ef i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaethau Cyclo-cross y Byd ym mi sChwefror 2009.[5]

Ym mis Mehefin 2009, cafodd chwech o feiciau eu dwyn o gatref y teulu. Roeddent yn werth tua 12 mil o bunnau, ac yn cynnwys beic tîm unigryw pinc llachar Planet-X nad yw ar gael i'w brynu. Bydd yn ceisio cael ei ddewis i gystadlu ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop yn 2009.[4]

Mae Harrison yn mynychu Coleg Gwent yn Crosskeys.[5]

Canlyniadau golygu

2007
1af   Pursuit 2km, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af   Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af   Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Cymru - Ieuenctid
3ydd Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Cymru - Ieuenctid
2008
1af Isle of Man International Youth Tour
1af   Pursuit 2km, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af   Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af   Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Cyclo-cross Prydain - Iau[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Switch Revealed - Sam Harrison. BBC (28 Tachwedd 2008).
  2.  10 Questions with Sam Harrison. British Cycling (19 Chwefror 2009).
  3.  A MINUTE WITH: SAM HARRISON. Cycling Weekly.
  4. 4.0 4.1  Cycle champion's £12k bike theft. BBC News (13 Mehefin 2009).
  5. 5.0 5.1  Student gears up for future success - Coleg Gwent. Fforwm (11 Chwefror 2009).
  6.  Sam Harrison. cyclingwebsite.net.



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.