Hyfforddwr athletau a seiclo Seisnig oedd Scipio Africanus 'Sam' Mussabini (6 Awst 186712 Mawrth 1927), a ddaeth yn enwog fel hyfforddwr i Harold Abrahams.

Sam Mussabini
GanwydScipio Arnaud Godolphin Mussabini Edit this on Wikidata
6 Awst 1867 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1927 Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd yn Llundain o ddisgyniad Arabaidd, Twrcaidd, Eidalaidd a Ffrengig. Dilynodd ei dad fel newyddiadurwr, bu hefyd yn sbrintiwr proffesiynol am bum mlynedd yn yr 1890au. Yn 1894 hyfforddodd Bert Harris i ennill ei bencampwriaeth proffesiynol cyntaf. Yn 1896, cyflogwyd ef fel hyfforddwr seiclo ar gyfer gwmni Dunlop Tyres.

Chwaraeodd Mussabini snŵcer i safon uchel yn ogystal ac adroddodd ar gemau fel newyddiadurwr chwaraeon yn ystod y gaeaf. Cyd-ysgrifennodd llyfr technegol am snŵcer yn 1897 a dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar gyfer newyddiadur snŵcer. Yn 1902, daeth yn gynorthwyydd golygol ac yn ddiweddarach yn gyd-berchennog a golygydd arni. Ysgrifennodd lyfr dau gyfrol am elfennau technegol snŵcer yn 1904.

Hyfforddodd y sbrintiwr De Affricanaidd, Reggie Walker, i ennill fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1908 yn Llundain. Hyfforddodd rhagor o chwaraewyr i ennill medalau aur yng Ngemau Olympaidd 1912 yn Stockholm. Apwyntwyd ef yn hyfforddwr llawn amser y Polytechnic Harriers rhwng 1912 a 1927.

Daeth a agwedd systematig i hyfforddi, yn hytrach na ond gwasanaethu fel masseur. Er enghraifft, defnyddiodd dechnegau Eadweard Muybridge i ffotograffu symudiadau'r rhedwyr a'u techneg wrth orffen ras.

Yng Ngemau Olympaidd 1920 yn Antwerp hyfforddodd Albert Hill i ddau fedal aur yn y ra 800m a 1500m, a Harry Edward, i ennill y fedal efydd yn y ras 100m. Hyfforddodd Harold Abrahams i fedal aur yn y ras 100m ac arian yn y ras gyfnewid 4x100m yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Portreadwyd y llwyddiant hyn yn ffilm Chariots of Fire lle chwaraeodd Ian Holm ran Mussabini. Enillodd ei proteges fedalau bpellach ar ôl ei farwolaeth, yng Ngemau Olympaidd 1928. Fe hyfforddodd athletwyr i unarddeg medal Olympaidd mewn pump o emau i gyd, ond ni gyddnabyddwyd ef yn swyddogol oherwydd ei fod yn hyfforddwr proffesiynol mewn oes pan werthfawrogwyd amaturiaeth yn arbennig.

Enwebwyd ef gan Gyngor Southwark i dderbyn plac glas ar ei gyn-gartref, 84 Burbage Road yn 2004 a 2006, ond nid oes un wedi ei godi hyd yn hyn.[1]

Dyfyniad golygu

"Only think of two things - the gun and the tape. When you hear the one, just run like hell until you break the other."

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placiau Glas 2006 - Cyngor Southwark". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-11. Cyrchwyd 2007-12-07.