Mae Samhain (ynganiad Cymraeg: Saw-în) yn ŵyl Geltaidd a ddethlir ar 31 Hydref tan 1 Tachwedd o fewn diwylliannau Celtaidd. Mae'n ŵyl gynhaeaf gyda'i gwreiddiau hynafol mewn amldduwiaeth Geltaidd.

Samhain
Hefyd a elwir Samhuinn (Gaeleg)
Sauin (Manaweg)
Dethlir gan Y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Cymry
Neo-baganiaid
(Adluniadwyr Celtaidd, Wiciaid)
Dechrau Hemisffer y Gogledd: Machlud haul, 31 Hydref
Hemisffer y De: Machlud haul, 30 Ebrill
Gorffen Hemisffer y De: Machlud haul, 1 Tachwedd
Hemisffer y De: Machlud haul, 1 Mai
Dathliadau Coelcerthi
Darogan
Hercian am afalau
Feasting
Cysylltir â Gŵyl Calan Gaeaf / Halloween, Dydd Gŵyl yr Holl Saint,
Chwiliwch am Samhain
yn Wiciadur.
Manylion canol Samonios ar Galendr Coligny.

Golwg cyffredinol golygu

Marciwyd Samhain diwedd o'r cynhaeaf, y diwedd o'r "hanner golau" o'r flwyddyn a dechrau o'r "hanner tywyll" o'r flwyddyn. Dathlwyd yn draddodiadol dros sawl diwrnod, a chred llawer o ysgolheigion mai dechrau'r flwyddyn y Celtiaid oedd hi.[1][2][3] Mae rhai elfennau o Ŵyl y Marw ganddi, a chredodd y Celtiaid fod y llen rhwng y byd hwn a'r arallfyd yn denau yn ystod yr ŵyl hon. Roedd coelcerthi'n symbol mawr yn ystod y dathliadau; fyddai pobl a da byw redeg rhwng dwy goelcerth fel defod lanhau, a thaflir esgyrn o dda bwy sydd wedi marw i mewn i'r fflamau er mwyn cael gwared â lwc ddrwg.[4]

Roedd r arfer o wisgo gwisgoedd a masgiau Celtaidd yn gais i gopïo ysbrydion neu eu tawelu. Yn yr Alban, dynwaredwyd y meirw gan ddynion ifanc gydag wynebau mygydog neu wynebau tywyll, gan wisgo mewn gwyn.[5][6] Defnyddiwyd Samhnag - maip wedi'u cafnu allan a cherfio ag wynebau i wneud llusernau - i wardio yn erbyn niweidiol ysbrydion.[6]

Daeth yr ŵyl Geltaidd yn gysylltiedig â Dydd Gŵyl yr Holl Saint, dathliad Cristnogol, sydd wedi dylanwadu'n fawr iawn ar arferion seciwlar sydd bellach yn gysylltiedig gyda Chalan Gaeaf. Dethlir Samhain gŵyl grefyddol gan rai Neo-baganiaid o hyd.[2][7]

Yng Ngâl, mae cyfeiriad at Samonios ar Galendr Coligny. Parhaodd yr ŵyl i fod yn un bwysig yn Iwerddon yn y Canol Oesoedd, gyda chyfarfod ar Fryn Tara a oedd yn parhau am dridiau.

Ar ŵyl Samhain, roedd ffiniau rhwng y byd hwn a'r byd arall (yr Arallfyd) yn teneuo, neu'n diflannu. Mae hwn yn syniad sy'n parhau i raddau mewn rhai o arferion dathlu Gŵyl Calan Gaeaf, a hefyd yr ŵyl grefyddol Gŵyl yr Holl Eneidiau (Saesneg: All Hallows' Eve). Yng Ngwyddeleg a Gaeleg yr Alban, gelwir Gŵyl Calan Gaeaf yn Oíche/Oidhche Shamhna a Samhain, sydd hefyd yn fis Tachwedd yn yr Wyddeleg ac an t-Samhain yng Ngaeleg yr Alban.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Chadwick, Nora (1970) The Celts Llundain, Penguin. ISBN 0-14-021211-6 tud. 181: "Samhain (1 November) was the beginning of the Celtic year, at which time any barriers between man and the supernatural were lowered".
  2. 2.0 2.1 Danaher, Kevin (1972) The Year in Ireland: Irish Calendar Customs Dulyn, Mercier. ISBN 1-85635-093-2 tud.190-232
  3. McNeill, F. Marian (1961, 1990) The Silver Bough, Cyf. 3. William MacLellan, Glasgow ISBN 0-948474-04-1 tud.11
  4. O'Driscoll, Robert (ed.) (1981) The Celtic Consciousness Efrog Newydd, Braziller ISBN 0-8076-1136-0 tud.197-216: Ross, Anne "Material Culture, Myth and Folk Memory" (on modern survivals); tud.217-242: Danaher, Kevin "Irish Folk Tradition and the Celtic Calendar" (on specific customs and rituals)
  5. Campbell, John Gregorson (1900, 1902, 2005) The Gaelic Otherworld. Edited by Ronald Black. Birlinn Ltd. ISBN 1-84158-207-7 pp.559-62
  6. 6.0 6.1  Bettina Arnold – Halloween Lecture: Halloween Customs in the Celtic World. Halloween Inaugural Celebration. Center for Celtic Studies (2001-10-31).
  7. Hutton, Ronald. The Pagan Religions of the Ancient British Isles: Their Nature and Legacy. Oxford, Blackwell, tud. 327–341. ISBN 0-631-18946-7