Defnyddir y term Sataniaeth i ddynodi nifer o gredoau a ffenomenau cymdeithasol cysylltiedig. Maent yn rhannu'r defnydd o symboliaeth, addoliad neu edmygedd o Satan neu gymeriadau tebyg. Ceir rhai Satianiaid sy'n rhannu'r un cysyniad o Satan â diwinyddiaethau Iddewig a Christnogol. Ceir eraill sy'n gweld Satan fel symbol o ewyllys rhydd ac unigoliaeth a'r cysyniad o ddyn yn bod ei dduw ei hun ("hunandduwiaeth"). Fel pwnc gallai Sataniaeth gynnwys ymarferion crefyddol, athroniaeth ddiwinyddol neu atheistaidd, a dewiniaeth.

Yn aml defnyddir y pentagram a'i ben i lawr fel symbol o Sataniaeth.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.