Saws a marinâd yw saws barbiciw a gaiff ei arlwyo â bwydydd barbiciw. Gan amlaf caiff ei roi ar gig, yn enwedig porc, asennau eidion, a chyw iâr, wrth iddo gael ei farbiciwio, gridyllu, neu bobi, neu wedi iddo gael ei goginio. Mae ryseitiau saws barbiciw yn amrywio'n eang. Mae'r cynhwysion yn aml yn cynnwys past tomato, finegr, mwg hylifol, sbeisiau, a melysyddion.

Coginio trwy ddull barbiciw St. Louis: caiff y cig ei ridylllu'n araf ac yna ei fudferwi mewn padell o saws barbiciw.
Eginyn erthygl sydd uchod am gyfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.