Sbaengi Clustlaes

Sbaengi sy'n tarddu o Ffrainc yw'r Sbaengi Clustlaes[1] neu'r Papilon.[1] Bu'n gi arffed ers yr 16g, ac yn disgyn o sbaengwn bychain o Sbaen a'r Eidal. Cafodd ei ffafrio gan nifer o enwogion, gan gynnwys Madame de Pompadour a Marie Antoinette, ac ymddangosir mewn peintiadau gan Peter Paul Rubens, Antoine Watteau, François Boucher, a Jean-Honoré Fragonard. Daw'r enw Papilon o'r gair Ffrangeg am bili-pala, sy'n cyfeirio at ei glustiau sydd yn edrych fel adenydd pili-pala.

Sbaengi Clustlaes
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs1.5 cilogram, 4.5 cilogram, 5 cilogram Edit this on Wikidata
GwladGwlad Belg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sbaengi Clustlaes ar ei eistedd

Ci gosgeiddig a meingorff ydyw sydd yn sefyll hyd at 28 cm ac yn pwyso hyd at 5 kg. Mae ganddo gynffon bluog a chôt feddal o flew gwyn gyda smotiau duon neu frown.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "papillon".
  2. (Saesneg) Papillon (breed of dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2018.