Roedd y Scordisci yn llwyth Celtaidd oedd yn byw yn rhan ddeheuol Pannonia isaf, mewn tiriogaeth oedd yn cynnwys rhannau o Awstria, Croatia, Hwngari, Serbia, Slofenia, Slofacia a Bosnia-Hertsegofina. Efallai fod yr enw'n deillio o fynyddoedd Scordus, (Mynyddoedd Šar heddiw), rhwng Illyria a Paionia.

Mae Strabo yn crybwyll Celtiaid yn yr ardal cyn gynhared a 300 CC. Yn 279 CC, dechreuasant symud tua Pannonia, gan ymsefydlu ym mhen draw Moesia lle mae Afon Sava ac Afon Donaw yn cyfarfod. Tyfodd eu prif gaer yma i fod yn ddinas Beograd heddiw.

Yn 135 CC gorchfygwyd hwy gan Cosconius yn Thrace. Yn 118 CC, yn ôl cofeb ger Thessalonica, lladdwyd Sextus Pompeius, taid y triumvir yn ôl pob tebyg, wrth frwydro yn eu herbyn. Yn 114 CC llwyddasant i ddinistrio byddin Rufeinig dan Gaius Porcius Cato ym mynyddoedd gorllewin Serbia, ond cawsant eu gorchfygu gan Minucius Rufus yn 107 CC.

Parhaodd ymladd ysbeidiol rhyngddynt hwy a'r Rhufeiniaid, ond yn 88 CC gyrrodd Lucius Cornelius Scipio Asiaticus hwy dros Afon Donaw. Erbyn amser Strabo toeddynt wedi eu gyrru o ddyffryn Afon Donaw gan y Daciaid, ac yn ddiweddarach daethant dan reolaeth y Daciaid.