Roedd Seisyllwg yn deyrnas yn ne-orllewin Cymru, fu'n bodoli o tua 730 hyd 920.

Seisyllwg
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben920 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu680 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTeyrnas Ceredigion Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTeyrnas Deheubarth Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Ar ddechrau'r 8g rheolai'r brenin Seisyll ap Clydog yng Ngheredigion. Tua'r flwyddyn 730 cipiodd Seisyll Ystrad Tywi oddi wrth Rhain ap Cadwgan, brenin Dyfed, a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Rhoddwyd yr enw Seisyllwg ar y deyrnas estynedig newydd. Cofnodir fod ei fab, Arthen ap Seisyll, wedi marw yn 807.

Yn 872 boddwyd trwy ddamwain Gwgon ap Meurig, brenin Seisyllwg, ac ychwanegodd Rhodri Mawr ei deyrnas at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon a gor-gor-gor-wyres Seisyll ap Clydog. Roedd Rhodri yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Ar farwolaeth Rhodri etifeddwyd Seisyllwg gan Cadell ap Rhodri ac fe'i ail-sefydlwyd am gyfnod fel teyrnas annibynnol. Llwyddodd Cadell i goncro Dyfed yn 904/905, a'i rhoi i'w fab Hywel Dda i'w llywodraethu.

Pan etifeddodd Hywel Seisyllwg hefyd yn 920 unodd y ddwy deyrnas i greu Teyrnas Deheubarth.

Brenhinoedd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co)