Roedd Seithenyn yn arglwydd a gysylltir â Chantre'r Gwaelod, yr ardal ym Mae Ceredigion (mewn rhai fersiynau mae'r lleoliad yn wahanol) a foddwyd gan y môr yn y 6g, yn ôl traddodiad llên gwerin.

Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau Tudno a Gwynhoedl.

Yn ôl un fersiwn o'r chwedl am Gantre'r Gwaelod mae Seithenyn yn geidwad y llifddorau yn llys Gwyddno Garanhir. Un noson dymhestlog bu gwledda mawr yn y llys ac anghofiodd Seithenyn, oedd yn feddw, i edrych y llifddorau a'u cau rhag y môr. Oherwydd ei esgelusdod boddwyd trigolion Cantre'r Gwaelod i gyd, namyn y brenin ei hun.

Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd Boddi Maes Gwyddneu yn Llyfr Du Caerfyrddin. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchymyn i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Yn fersiwn Llyfr Du Caerfyrddin o'r chwedl nid Seithenyn sy'n cael y bai am adael y môr i mewn, ond merch o'r enw Mererid.

Boddi Maes Gwyddno: Cymraeg Modern Boddi Maes Gwyddneu: Ffurf wreiddiol
Seithennin, saf di allan
ac edrycha ar ferw'r môr:
Maes Gwyddno a'i orchuddwyd
Seithenhin saw de allan.
ac edrychuir de varanres mor.
maes guitnev rytoes.
Boed felltigedig y forwyn
a'i gollyngodd wedi gwledd
tywalltwr ffynnon garw'r môr
Boed emendiceid y morvin
ae hellygaut guydi cvin.
finaun wenestir mor terruin.
Boed felltigedig y ferch
a'i gollyngodd wedi'r frwydr
tywalltwr ffynnon y môr diffaith.
Boed emendiceid y vachteith.
ae. golligaut guydi gueith.
finaun. wenestir mor diffeith
Gwaedd Mererid o uchelfan y gaer
at Dduw y'i cyfeirir.
arferol yw tranc mawr yn sgîl balchder.
Diaspad vererid y ar vann caer.
hid ar duu y dodir.
gnaud guydi traha trangc hir.
Gwaedd Mererid oddi ar uchelfan y gaer heddiw;
hyd at Dduw ei hymbil.
edifeirwch sy'n arferol yn sgîl balchder.
Diaspad mererid. y ar. van kaer hetiv.
hid ar duu y dadoluch.
gnaud guydi traha attreguch.
Gwaedd Mererid sy'n fy nghyffroi heno,
ac ni hwylusa (unrhyw) lwyddiant i mi.
cwymp sy'n yn arferol yn sgîl balchder.
Diaspad mererid. am gorchiut heno.
Ac nihaut gorlluit.
G. G. traha tramguit.
Gwaedd Mererid oddi ar gefn ceffyl gwinau hardd;
Duw hael a'i gwnaeth.
cyflwr anghenus sy'n arferol yn sgîl gormodedd
Diaspad mererid y ar gwinev kadir
kedaul duv ae gorev.
gnaud guydi gormot eissev.
Gwaedd Mererid sy'n fy ngorfodi heno
oddi wrth f'ystafell.
mae tranc pell yn arferol yn sgîl balchder.
Diaspad mererid. am kymhell heno
y urth uy istauell.
gnaud guydi traha trangc pell.
Bedd Seithennin aruchel ei feddwl
rhwng Caer Genedr a glan y môr:
arweinydd mor ardderchog (ydoedd)
Bet seithenhin synhuir vann
Rug kaer kenedir a glan.
mor maurhidic a kinran.

Ar ddiwedd Llyfr Du Caerfyrddin ceir un o Englynion y Beddau (orgraff ddiweddar):

Bedd Seithenyn, synhwyr wan,
Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr;
Mawrhyddig o gynran.

Llyfryddiaeth golygu

  • A.O.H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982)
  • F.J. North, Sunken Cities (Caerdydd, 1957)