Dinas yn Iran yw Semnān (Iraneg: : سمنان ), sy'n brifddinas talaith Semnān a sir Semnān. Fe'i lleolir yng nghanolbarth gogledd y wlad. Poblogaeth: 119,778 (amcangyfrifiad, 2005).

Semnān
Mathdinas Iran, dinas fawr Edit this on Wikidata
Fa-Semnan.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth185,129 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCentral District Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Uwch y môr1,148 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.58°N 53.38°E Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd y ddinas 1,138 metr i fyny wrth odrau deheuol mynyddoedd yr Alborz. Mae'n farchnad ranbarthol ar gyfer cotwm a chynnyrch grawnfwyd. Cynhyrchu tecstilau a charpedi yw'r diwydiannau traddodadiadol ond erbyn heddiw mae cynhyrchu ceir a beiciau yn bwysig hefyd.

Gorweddai Semnan ar un o brif lwybrau Llwybr y Sidan a gysylltai marchnadoedd Ewrop a'r Dwyrain Canol gyda Tsieina. O fewn Iran ei hun mae'n arosfa o bwys ers canrifoedd rhwng Tehran (220 kilometer) a Mashad (685 kilometer), a gysylltir â'r ddinas gan ffyrdd a rheilffordd erbyn hyn.

Dolenni allanol golygu