Corff deddfwriaethol cenedlaethol Libanus yw Senedd Libanus (Le Parlement - "y Senedd" - ar lafar yn Libanus). Yn Arabeg, ei henw swyddogol yw مجلس النواب Majlis an-Nuwwab (Siambr y Dirprwyon); yn Ffrangeg, Assemblée nationale ('Cynulliad Cenedlaethol'). Etholir y senedd am derm o bedair blynedd trwy bleidlais agored mewn etholaethau aml-aelod, wedi eu dyfrannu yn ôl enwadau Cristnogol a Mwslemaidd amrywiol y wlad. Ei phrif swyddogaethau yw ethol Arlywydd y weriniaeth, rhoi eu cydsyniad i ffurfio llywodraeth (er ei fod yn cael ei apwyntio gan yr Arlywydd, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog, gyda'r Cabinet, fwynhau cefnogaeth y mwyafrif yn y senedd), ac i gefnogi deddfau a gwariant cyhoeddus. Lleolir y senedd yn ninas Beirut.

Senedd Libanus
Mathdeddfwrfa unsiambr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1926 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladLibanus Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.89677°N 35.5038°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'n senedd un siambr. Rhennir y 128 sedd yn y senedd yn gyfartal rhwng y pleidiau Cristnogol a Mwslimaidd. Llefarydd y Senedd ers 2006 yw Nabih Berri, o'r Mudiad Amal.

Dolen allanol golygu