Serbo-Croateg

iaith neu grŵp o ieithoedd De Slafonaidd

Iaith neu grŵp o ieithoedd De Slafonaidd yw Serbo-Croateg, sy'n cynnwys Croateg, Serbeg a Bosnieg. Yn ddiweddar, defnyddir enwau gwahanol arni, gan gynnwys BCMS[2], sy'n cyfeirio'n glir at y Fosnieg a'r Fontenegreg yn ogystal.

Serbo-Croateg
Enghraifft o'r canlynoliaith, macroiaith, iaith fyw, pluricentric language Edit this on Wikidata
MathWestern South Slavic Edit this on Wikidata
Enw brodorolsrpskohrvatski jezik Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 19,000,000 (2022)[1]
  • cod ISO 639-1sh Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3hbs Edit this on Wikidata
    GwladwriaethBosnia a Hertsegofina, Serbia, Croatia, Montenegro Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuGaj's Latin alphabet, Serbian Cyrillic alphabet, Yr wyddor Gyrilig, yr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Amrywiadau o Croateg, Serbeg a Bosnieg. (2006)

    Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwyr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Serbo-Croateg oedd iaith swyddogol Iwgoslafia. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

    Gwahaniaethau rhwng amrywiadau o Serbo-Croateg golygu

      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
    2. "Centre d'études slaves - UMS 623 - Grammaire du Bosniaque Croate Monténégrin Serbe". www.etudes-slaves.paris-sorbonne.fr. Cyrchwyd 2020-11-09.