Mae seren niwtron yn weddilion seren sydd wedi dymchwel oherwydd disgyrchiant, a'i maint yn fychan a dwys ac mae wedi'i gwneud bron yn gyfangwbl o niwtronau sy'n fân ronynnau isatomig. Mae'n niwclews fawr iawn ac yn cael ei dal at ei gilydd gan ddisgyrchiant.

Seren Niwtron

Mae ganddi radiws bychan iawn ond mae ei màs yn llawer mwy na màs yr Haul a'i gwres yn uchel. Caiff ei hatal rhag lleihau'n rhagor gan wasgedd cwantwm (quantum degeneracy pressure) drwy'r ffenomenwm a elwir yn "Ataliad Pauli", sy'n mynnu na all unrhyw ddau niwtron (neu unrhyw fân ronyn ffermionig arall) fod yn yr un lle ar yr un pryd.

Mae màs cyfartalog seren niwtron rhwng 1.4 a 3.2 màs solar[1][2][3], gyda radiws o oddeutu 12 km.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bulent Kiziltan (2011). Reassessing the Fundamentals: On the Evolution, Ages and Masses of Neutron Stars. Universal-Publishers. ISBN 1-61233-765-1.
  2. Bulent Kiziltan; Athanasios Kottas; Stephen E. Thorsett (2010). "The Neutron Star Mass Distribution". arXiv:1011.4291 [astro-ph.GA].
  3. "Nasa Ask an Astrophysist: Maximum Mass of a Neutron Star". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-09. Cyrchwyd 2013-09-06.
  4. Paweł Haensel, A Y Potekhin, D G Yakovlev (2007). Neutron Stars. Springer. ISBN 0-387-33543-9.CS1 maint: multiple names: authors list (link)