Seven Pounds (ffilm)

Mae Seven Pounds (2008) yn ffilm ddrama emosiynol a gyfarwyddwyd gan Gabriele Muccino. Mae Will Smith yn serennu fel dyn sy'n bwriadu newid bywydau saith o ddieithriaid. Mae Rosario Dawson, Woody Harrelson, a Barry Pepper hefyd yn serennu yn y ffilm. Rhyddhawyd y ffilm mewn theatrau yn Unol Daleithiau America a Chanada ar yr 19eg o Ragfyr, 2008 ac ar yr 16eg o Ionawr, 2009 yn y DU. Hyd yn hyn, mae'r ffilm wedi gwneud dros 100 miliwn ($ UDA) gan wneud y ffilm hon y nawfed ffilm sy'n serennu Will Smith sydd wedi gwneud dros 100 miliwn o ddoleri.

Seven Pounds

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Gabriele Muccino
Cynhyrchydd Todd Black
Jason Blumenthal
James Lassiter
Will Smith
Steve Tisch
Ysgrifennwr Grant Nieporte
Serennu Will Smith
Rosario Dawson
Woody Harrelson
Michael Ealy
Barry Pepper
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Columbia Pictures
Dyddiad rhyddhau UDA a Canada
19 Rhagfyr, 2008
DU
16 Ionawr, 2009
Amser rhedeg 123 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Dolenni Allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.