Brenin y Swlŵiaid yn Ne Affrica oedd Shaka (Mehefin 1786 - 22 Medi 1828). Dan ei lywodraeth ef, daeth y Swlŵiaid i reoli rhan helaeth o'r hyn sy'n awr yn Dde Affrica, rhwng afonydd Phonogolo a Mzimkhulu.

Shaka
Ganwydc. Gorffennaf 1787, 1787, 1786 Edit this on Wikidata
Mthethwa Paramountcy Edit this on Wikidata
Bu farw22 Medi 1828 Edit this on Wikidata
KwaDukuza Edit this on Wikidata
DinasyddiaethZulu Kingdom Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadSenzangakhona kaJama Edit this on Wikidata
MamNandi Edit this on Wikidata

Roedd Shaka yn fab i Nandi a'r brenin Senzangakhona, ond gan nad oedd ei rieni yn briod, magwyd ef gan Dingiswayo, brenin y Mthethwa. yn hytrach na gan ei dad. Wedi marwolaeth ei dad, cafodd gymorth Dingiswayo i orchfygu ei hanner-brawd Siguyana a dod yn frenin tua 1812.

Dechreuodd ei yrfa fel concwerwr yn 1816, gan orchfygu tylwythau eraill y Swlŵiaid. Gwnaeth newidiadau mawr i ddulliau rhyfela ymhlith y Swlŵiaid, gan arfogi ei filwyr a gwayffyn byrion ar gyfer trywanu yn hytrach na'r waywffon hir i'w thaflu. Trefnodd y fyddin yn gatrodau yn ôl oedran. Yn 1824 gwnaeth gytundeb a'r ymsefydlwyr Ewropeaidd yn Ne Affrica.

Ym mlynyddoedd olaf ei deyrnasiad aeth ei reolaeth yn fwy gormesol. Wedi marwolaeth ei fam, Nandi, dangosodd ei alar trwy ladd nifer fawr o bobl oedd, yn ei farn ef, ddim yn ymddangos yn ddigon trist. Llofruddiwyd ef gan ei ddau hanner-brawd, Dingane a Mhlangana, a chuddiwyd ei gorff fe na ellid dod o hyd iddo.