Elusen digartrefedd Cymreig ydy Shelter Cymru. Mae'n cyd weithio â'r elusen Saesnig Shelter. Mae Shelter Cymru wedi bod mewn bodolaeth ers 1981, ac wedi bod yn sefydliad annibynnol ers 1986. Maent yn rhoi cyngor ar digartrefedd, dod o hyd i le i fyw, talu am dai, rhentu a phrydlesu, adfeddiant morgais, atgyweiriadau ac amodau gwael ac am deuluoedd a pherthnasoedd. Mae ganddynt linell gymorth yn ogystal â chynnig apwyntiadau wyneb-yn-wyneb.

Rhif elusen gofrestredig Shelter Cymru yw 515902.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.