Ardal yn Llundain yw Shoreditch, wedi ei lleoli ym mwrdeistref Hackney. Lleolir yn union i'r gogledd o Ddinas Llundain 2.5 milltir (4 cilometr) i'r gogledd-ddwyrain o Charing Cross.

Shoreditch
Mathtref, ardal o Lundain, pentref hoyw Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Hackney
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaDalston Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.526°N 0.078°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ325825 Edit this on Wikidata
Cod postE1, E2, EC1, EC2 Edit this on Wikidata
Map

Mae Shoreditch, ynghyd â Hoxton gerllaw wedi bod yn ganolbwynt traddodiadol i artistiaid ifanc dros yr 20g, ac fe gaiff hyn ei dystio gan y nifer o orielau celf (yn enwedig celf modern) sydd yn yr ardal. Ers i brisiau tai godi fodd bynnag, mae ffocws y sîn gelf yn dechrau symud allan i'r dwyrain tuag at ardaloedd Hackney Wick, Stepney, Bow a Mile End neu i'r de o'r afon (e.e. Peckham, New Cross).

Trafnidiaeth golygu

Ers 27ain Ebrill 2010 gwasanaethir yr ardal gan Orsaf Reilffordd Shoreditch High Street sydd yn rhan o rwydwaith Overground Llundain.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Llundain Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.