Sienna Miller

actores a aned yn 1981

Actores, model a dylunydd ffasiwn Seisnig yw Sienna Rose Miller (ganwyd 28 Rhagfyr 1981). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôlau yn Alfie, Factory Girl ac The Edge of Love.

Sienna Miller
GanwydSienna Rose Diana Miller Edit this on Wikidata
28 Rhagfyr 1981 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Heathfield, Ascot
  • Institiwt Ffilm a Theatr Strasbwrg
  • Ysgol Francis Holland Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor llais, actor llwyfan, actor teledu, model, actor, dylunydd ffasiwn, cymdeithaswr Edit this on Wikidata
PartnerJude Law, Tom Sturridge Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed Miller yn Efrog Newydd, a symudodd ei theulu i Lundain pan oedd ond un oed. Mae ei mam, Josephine, yn gyn-fodel a aned yn Ne Affrica.[1] Roedd ei thad, Edwin Miller, yn fancwr Americanaidd, sydd eisoes wedi troi'n ddeliwr celf Tseiniaidd.[2] Mae gan Miller chwaer, Savannah, a dau hanner-brawd, Charles a Stephen.[3] Mynychodd Miller Heathfield St Mary's School, ysgol breswyl yn Ascot, Berkshire, ac astudiodd yn Athrofa Lee Strasberg yn Efrog Newydd yn ddiweddarach.[3] Mae ganddi basbort Prydeinig ac Americanaidd, a cafodd ei thrwydded yrru cyntaf yn Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau, gan fod pasio yno gyntaf yn golygu y gallai yrru yn yr Unol Daleithiau a Phrydain.[4]

Bywyd bersonol golygu

Cafodd berthynas gyhoeddus gyda'r actor Jude Law, ei cyd-actor yn Alfie, a dyweddiodd y pâr ar ddydd Nadolig 2004.[5] Ar 8 Gorffennaf 2005, gwnaeth Law ymddiheuriad cyhoeddus i Miller, wedi iddo gael carwriaeth gyda mamaeth ei blant.[6] Gwahanodd y ddau y mis Tachwedd canlynol, wedi methu ac achub eu perthynas.[7] Bu Sienna Miller yna mewn perthynas â nifer o actorion eraill, gan gynnwys Rhys Ifans, Matthew Rhys a Daniel Craig. Ers 2011, mae wedi bod mewn perthynas â'r actor Tom Sturridge, ac mae'n feichiog gyda'i blentyn.[8]

Helynt hacio ffonau golygu

Yn dilyn gwrandawiad yn yr Uchel Lys Fym mis Mai 2011, bydd Sienna Miller yn derbyn £100,000 o iawndal oddi wrth News of the World, wedi i'r papur gyfaddef eu bod wedi hacio ei ffôn.[9] Ym mis Tachwedd 2011, bu'n un o'r prif dystion i ymddangos o flaen Ymchwiliad Leveson i hacio ffonau.[10] Daeth ei datganiad i frig y newyddion yn ddiweddarach:[11]

I would often find myself almost daily, I was 21, at midnight running down down a dark street on my own with 10 big men chasing me. The fact that they had cameras in their hands meant that that was legal. But if you take away the cameras, what have you got? You've got a pack of men chasing a woman, and obviously that's a very intimidating situation to be in.

Ffilmograffi golygu

Ffilm
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2001 South Kensington Sharon
2002 High Speed Savannah
2002 The Ride Sara
2004 Layer Cake Tammy
2004 Alfie Nikki
2005 Casanova Francesca Bruni
2006 Factory Girl Edie Sedgwick
2007 Interview Katya
2007 Camille Camille Foster
2007 Stardust Victoria
2008 The Mysteries of Pittsburgh Jane Bellwether
2008 A Fox's Tale Darcey (Llais)
2008 The Edge of Love Caitlin Macnamara
2009 G.I. Joe: The Rise of Cobra Ana Lewis/Anastascia DeCobray/The Baroness
2011 Two Jacks Diana
2011 New Year's Eve Unknown
2012 Yellow Xanne
2013 Alfred Hitchcock and the Making of the Birds Tippi Hedren
I'w gadarnhau Hippie Hippie Shake Louise Ferrier
Teledu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2002 The American Embassy Babe 1 pennod
2002 Bedtime Stacey 4 pennod
2003–2004 Keen Eddie Fiona Bickerton 13 pennod
2009/2011 Top Gear Hi ei hun 2 pennod

Cyfeiriadau golygu

  1.  Sienna Miller: a sense of theatre. Telegraph (7 Mehefin 2008).
  2.  Sienna Miller Denies Having Temper Tantrum. People.com. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2011.
  3. 3.0 3.1  Sienna Miller Biography. thebiographychannel.co.uk. Adalwyd ar 6 Medi 2009.
  4. Ice Race - Pennod 5, Top Gear - cyfres deledu rhif 13, BBC, 19 Gorffennaf 2009
  5. Stephen M. Silverman. "Jude Law to Marry Girlfriend Sienna Miller", People, 5 Ionawr 2005.
  6. "I cheated on Sienna: Jude", Sydney Morning Herald, 8 Gorffennaf 2005.
  7. Pete Norman. "Jude Law and Sienna Miller Call It Quits", People, 12 Tachwedd 2006.
  8. "Sienna Miller 'is expecting first baby with boyfriend Tom Sturridge'", 6 Ionawr 2012.
  9.  Sienna Miller awarded £100,000 over phone hacking (13 Mai 2011).
  10.  Sienna Miller's written statement to the Leveson inquiry – full text. Guardian (24 Tachwedd 2011).
  11.  Leveson Inquiry: Actress Sienna Miller gives evidence. BBC (24 Tachwedd 2011).


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.