Sierra Madre Oriental

Cadwyn hir o fynyddoedd yn nwyrain Mecsico yw'r Sierra Madre Oriental neu'r Sierra Madre Dwyreiniol.[1] Mae'n ymestyn am 1000 km o Coahuila i gyfeiriad y de trwy Nuevo León, de-orllewin Tamaulipas, San Luis Potosí, Querétaro, a Hidalgo i ogledd Puebla, lle mae'n ymuno a'r Eje Volcánico Transversal yng nghanolbarth Mecsico.

Sierra Madre Oriental
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCoahuila, Nuevo León, Tamaulipas, San Luis Potosí, Hidalgo, Puebla, Querétaro Edit this on Wikidata
GwladMecsico Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,700 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.37°N 100.55°W Edit this on Wikidata
Hyd1,300 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAmerican Cordillera Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y gadwyn ym Mecsico yw hon. Gweler hefyd Sierra Madre (gwahaniaethu).

Y pwynt uchaf yw Cerro Potosí, 3713 medr. Copa uchaf arall yn y gadwyn yw El Coahuilón, tua 3460 medr.

Gorwedd Gwastadedd Arfordirol Gwlff Mecsico i'r dwyrain o'r gadwyn, rhyngddi a Gwlff Mecsico. Mae Llwyfandir Mecsico, sy'n gorwedd ar gyfartaledd 1,100 m i fyny, yn gorwedd rhwng y Sierra Madre Oriental a'r Sierra Madre Occidental i'r gorllewin.

Tair cadwyn Sierra Madre Mecsico yn cynnwys (ar y de) y Sierra Madre Oriental

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.