Siglen felen

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Siglen Felen)
Siglen felen
Motacilla flava

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Motacillidae
Genws: Motacilla[*]
Rhywogaeth: Motacilla flava
Enw deuenwol
Motacilla flava
Dosbarthiad y rhywogaeth
Cuculus canorus canorus + Motacilla flava

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Siglen felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: siglennod melynion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Motacilla flava; yr enw Saesneg arno yw Yellow wagtail. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. flava, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Felen yn aderyn mudol, sy'n mudo o Affrica a de Asia i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell. Mae'n aderyn o 15 – 16 cm o hyd, gyda chynffon sy'n fyrrach na'r siglennod eraill a geir yn Ewrop, er enghraifft y Siglen Lwyd. Ceir cryn amrywiaeth yn yr is-rywogaethau, yn enwedig yn lliw y pen, ond yn gyffredionol mae'r aderyn yn wyrdd-frown ar y cefn ac yn felyn ar y bol.

Is-rywogaethau golygu

Ar un adeg roedd y M. f. flavissima yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig yn y dwyrain, ond bellach ychydig sy'n nythu yma. Gwelir nifer o'r is-rywogaethau eraill o dro i dro yn ystod y tymor mudo, yn enwedig M. f. flava (Siglen Benlas).

Teulu golygu

Mae'r siglen felen yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Aderyn hirewin Abysinia Macronyx flavicollis
 
Aderyn hirewin Fülleborn Macronyx fuelleborni
 
Aderyn hirewin Grimwood Macronyx grimwoodi
Aderyn hirewin Pangani Macronyx aurantiigula
 
Aderyn hirewin gwridog Macronyx ameliae
 
Aderyn hirewin gyddf-felyn Macronyx croceus
 
Aderyn hirewin y Penrhyn Macronyx capensis
 
Corhedydd euraid Tmetothylacus tenellus
 
Macronyx sharpei Macronyx sharpei
 
Siglen goedwig Dendronanthus indicus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Siglen felen gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.