Sinsir
Sunsur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Zingiberales
Teulu: Zingiberaceae
Genws: Zingiber
Rhywogaeth: Z. officinale
Enw deuenwol
Zingiber officinale
L.

Blodyn parhaol yw sinsir neu sunsur (Lladin: Zingiber officinale); defnyddir ei wreiddiau (neu ei 'risomau') sych i roi blas ar fwyd neu mewn meddygaeth.

Mae ei fonyn yn tyfu tua metr o daldra'n flynyddol ac mae ganddo ddail gwyrdd a blodau melyn. Mae'n frodorol o dde Tsieina ond lledaenodd i Asia ac yna i Orllewin Affrica a'r Caribi.[1] Cychwynnwyd allforio sinsir i Ewrop o India yn ystod y ganrif gyntaf O.C.[1][2] Bellach, India yw prif gynhyrchydd sinsir.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Spices: Exotic Flavors & Medicines: Ginger". Cyrchwyd 2 Mai 2014.
  2. "What are the benefits of ginger?". Medical News Today. 29 Awst 2014. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2014.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am sbeis. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.