Siop sy'n gwerthu nwyddau sy'n ymwneud â rhyw yw siop ryw.

Ffenestr siop ryw yn ardal Shinjuku, Tokyo, Japan

Mae'r nwyddau a werthir yn amrywio o wlad i wlad, yn dibynnu ar y lefel o sensoriaeth sy'n bod, ac yn gallu cynnwys cylchgronau rhyw, llyfrau erotig, fideos a DVDs erotig, teganau rhyw a dillad erotig neu ffetis.

Yn y Deyrnas Unedig rhaid cael trwydded arbennig gan y cyngor lleol i agor siop ryw. Ar un adeg dim ond yn y trefi a dinasoedd mawr y caed siopau rhyw, ond erbyn heddiw maen nhw'n eithaf cyffredin mewn trefi bychain yn ogystal; mae hyn yn ddatblygiad a groesewir gan rhai pobl ond a wrthwynebir gan eraill.

Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.