Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Sir Gaernarfon. Ffurfiwyd y sir ym 1284 trwy uno cantrefi Arfon, Arllechwedd a Llŷn. Defnyddiwyd Sir Weinyddol Caernarfon ar gyfer llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Heddiw, caiff tiriogaeth y sir ei gweinyddu gan gynghorau Gwynedd a Sir Conwy. Cofrestrwyd baner swyddogol ar gyfer y sir yn 2012.

Sir Gaernarfon
Mathsiroedd hynafol Cymru, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCaernarfon Edit this on Wikidata
PrifddinasCaernarfon Edit this on Wikidata
Poblogaeth137,048 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1284 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaSir Ddinbych, Sir Feirionnydd, Sir Fôn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0824°N 4.16°W Edit this on Wikidata
Map

Bu peth newid yn ffiniau'r sir yn 1895, pan symudwyd y rhannau hynny o blwyf Beddgelert a arferai fod yn Sir Feirionnydd, sef y tir i'r de a'r dwyrain o'r Afon Gwynant/Afon Glaslyn i fod yn rhan o Sir Gaernarfon. Roedd plwyf Llysfaen a threfgordd Eirias ym mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos yn ynys fach o Sir Gaernarfon o fewn ffiniau Sir Ddinbych hyd 1922, pan unwyd hwy â gweddill Sir Ddinbych.

Dros y blynyddoedd bu rhai yn ceisio dadlau bod Ynys Enlli yn rhan o Sir Benfro ond ni chafwyd unrhyw gyfiawnhad dros y fath honiad, a dichon mai ymdrech imosgoi talu trethi'r sir oedd y tu ôl i'r awgrym.

Sir Gaernarfon yng Nghymru

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.