Dinas a chymuned (comune) ar ynys Sisili yn yr Eidal yw Siracusa (Sisilieg Sarausa, Groeg Συρακοῦσαι, Lladin Syracusae, Ffrangeg a Saesneg Syracuse), sy'n brifddinas talaith Siracusa. Saif ar arfordir dwyreiniol yr ynys.

Siracusa
Mathcymuned, dinas, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid, polis Edit this on Wikidata
PrifddinasSiracusa Edit this on Wikidata
Poblogaeth116,244 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethFrancesco Italia Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bwrdeistref Stockholm, Corinth, Erchie, Perugia Edit this on Wikidata
NawddsantLleucu Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSyracuse and the Rocky Necropolis of Pantalica, Free Municipal Consortium of Syracuse Edit this on Wikidata
SirFree Municipal Consortium of Syracuse Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd207.78 km², 898 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr17 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAvola, Melilli, 2024, Priolo Gargallo, Solarino, Canicattini Bagni, Floridia, Palazzolo Acreide Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.0692°N 15.2875°E Edit this on Wikidata
Cod post96100 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFrancesco Italia Edit this on Wikidata
Map

Roedd y boblogaeth yn 118,385 yng nghyfrifiad 2011.[1]

Sefydlwyd Siracusa yn 734 neu 733 CC gan Roegiaid o ddinasoedd Corinth a Tenea, dan arweiniad yr oecist (gwladychwr) Archias, a'i galwodd yn Sirako, gan gyfeirio at gors gyfagos. Tyfodd y ddinas i fod yn un o'r dinasoedd Groegaidd mwyaf grymus yn unman o gwmpas Môr y Canoldir.

Daeth y ddinas yn gyfoethog iawn mewn cynghrair a Gweriniaeth Rhufain yn ystod teyrnasiad Hiero II o 275 CC ymlaen. Wedi marwolaeth Hiero yn 215 CC, trodd ei olynydd Hieronymus yn erbyn Rhufain, a chipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid dan Marcus Claudius Marcellus yn 212 CC. Lladdwyd dinesydd enwocaf Siracusa, y gwyddonydd a mathemategydd Archimedes, pan gipiwyd y ddinas.

Siracusa oedd prifddinas yr ynys yn y cyfnod Rhufeinig. Bu dan reolaeth y Fandaliaid am gyfnod, cyn i'r cadfridog Belisarius ei chipio i'r Ymerodraeth Fysantaidd ar 31 Rhagfyr 535). O 663 hyd 668 roedd yr ymerawdwr Constans II yn teyrnasu o Siracusa. Cipiwyd y ddinas gan y Mwslimiaid yn 878, ac yn y cyfnod dilynol daeth Palermo yn brifddinas yr ynys yn lle Siracusa.

Yn 2005 daeth hen ganol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.

Eglwys gadeiriol Siracusa
Theatr Roegaidd Siracusa

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018